Tiwtor/Asesydd Cynllun Ysgolion De Orllewin- Ysgolion Cwm Gwendraeth
Sir GârGweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Cyfeiriad:
Bydd disgwyl i’r sawl a benodir, weithio gyda disgyblion Ysgolion Cwm Gwendraeth. Disgwylir i’r sawl a benodir, deithio i asesu’r dysgwyr yn eu lleoliadau.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: eunice.jones@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MM18 i M22 £24,971 - £28,312 (pro rata) y flwyddyn. Gwir gyflog ar sail 15 awr y wythnos: £9,988.40 i £11,324.80 y flwyddyn.
Oriau: 15 awr yr wythnos. Cytundeb dros gyfnod mamolaeth i gychwyn 3.06.2024
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (DALIE/BAME) a gwrywaidd.
Dyddiad Cau: 31/05/2024