Cwrs hunan-astudio, ar-lein ar lefel Canolradd

Mae’r cwrs hon yn addas i chi os ydych am gryfhau eich Cymraeg a hefyd os ydych chi’n gallu:

  • Deall brawddegau am bynciau bob dydd sy’n ymwneud â’r gweithle pan fydd pobl yn siarad yn araf, e.e., beth maen nhw wedi ei wneud, beth fyddan nhw’n ei wneud, neu beth fasen nhw’n ei wneud;
  • Cynnal sgwrs sylfaenol gyda phlant a chydweithwyr am bynciau bob dydd yn ymwneud â’r gweithle;
  • Rhoi cyfarwyddiadau syml ar gyfer gweithgareddau bob dydd yn y gweithle;
  • Gofyn ac ateb cwestiynau sylfaenol am chwarae yn yr awyr agored, amser stori, helpu eraill, teithio, bwyd a diod, hoff bethau, digwyddiadau’r gorffennol, cynlluniau ar gyfer y dyfodol, pethau gallwn ni eu gwneud, dymuniadau, rhifau ac arian, caniatâd a chymwynasau, hoff bethau, pethau hoffan ni eu gwneud/cael, rhoi cyngor, lleoliadau;
  • Disgrifio a chymharu gan ddefnyddio amseroedd y presennol, y gorffennol a’r dyfodol, e.e. y tywydd, pobl, pethau.

I gofrestru i dderbyn linc i ddechrau ar y cwrs, llenwch y ffurflen hon  https://forms.office.com/e/Q7K0pr9K0W

Am wybodaeth bellach cysylltwch â  camau@meithrin.cymru 

Deilliannau Dysgu Lefel Canolradd

Lawrlwytho