Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Categorïau

 

Linc ar gyfer y cyflwyniad ei hun yma

  • Mae’r mwyafrif o gylchoedd / feithrinfeydd yn talu eu staff yn pro rata, h.y. bod y tâl am yr oriau y maent yn eu gweithio dros yr wythnosau gwaith, yn cael eu rhannu yn hafal dros y flwyddyn fel eu bod yn cael yr un cyflog pob mis. Mae hyn yn ei wneud yn haws i’r staff a’r Cylch/Feithrinfa i reoli eu cyllid gan eu bod yn gwybod bod cyflog cyson yn dod mewn / cael ei dalu allan yn fisol.
  • Er mwyn gweithio allan cyflog pro rata, mae angen i chi wybod tri peth, sef beth yw tâl yr awr yr unigolyn, sawl awr yr wythnos maent yn mynd i fod yn gweithio, a chytundeb am sawl wythnos o waith y flwyddyn sydd ganddyn nhw. Yna, bydd y cyflog blynyddol yn cael ei gyfrifo gyda’r hafaliad isod:

Cyflog Blynyddol = Tâl yr awr  x  Oriau Wythnosol  x  Wythnosau Gwaith

  • Bydd yr uchod wedyn yn cael ei rannu dros y nifer o fisoedd mae’r cytundeb ar gyfer, e.e. dros 12 mis os ydynt yn cael eu cyflogi am flwyddyn gyfan.
  • Mae’r rhan fwyaf o gylchoedd/meithrinfeydd yn cyflogi staff ar gytundebau unai 52 wythnos y flwyddyn, neu ar gytundebau tymor ysgol yn unig, sef 39 wythnos gwaith y flwyddyn, ac yna 5.6 wythnos o dâl ar gyfer eu hawl gwyliau blynyddol.
  • Dyma’r gyflog symlaf i gyfrifo o’r ddau wahanol opsiwn pro rata, ac mae’n golygu bod yr aelod o staff yn cael eu talu am bob wythnos o’r flwyddyn, h.y. 52 wythnos. Felly gydag unigolyn sydd ar gytundeb 52 wythnos y flwyddyn yn gweithio 30 awr yr wythnos ar raddfa tâl o £12.50 yr awr, gwelwn fod:

Cyflog Blynyddol = £12.50 yr awr  x  30 awr yr wythnos  x  52 wythnos = £19,500

Cyflog Misol = £19,500 / 12 mis = £1,625.00

  • Bydd unrhyw oriau ychwanegol ar ben y 30 awr yr wythnos graidd yma, neu unrhyw awr o’r 30 awr graidd yma sydd yn cael ei fethu gan yr unigolyn uchod am unrhyw reswm yn cael ei ychwanegu neu ei dynnu i ffwrdd o’r cyfanswm am y mis ar y raddfa o £12.50 yr awr, e.e. Os yw unigolyn uchod yn gweithio 10 awr ychwanegol un mis, yna eu cyflog misol fydd:

£1,625  +  (£12.50 yr awr  x  10 awr ychwanegol) = £1,750.00

  • Yr un peth ar gyfer oriau wedi ei fethu am unrhyw reswm, ond bydd y cyfanswm yn cael ei dynnu oddi ar y gyflog yn lle ei ychwanegu.
  • Gyda gwyliau unigolion sydd ar gytundebau 52 wythnos y flwyddyn, y lleiafswm statudol bydd ganddynt hawl i’w dderbyn yw 5.6 wythnos. Gan eu bod yn cael eu talu am 52 wythnos y flwyddyn, does dim angen ychwanegu tâl am y 5.6 wythnos yma wedyn, ond bydd ganddynt hawl i gymryd 5.6 wythnos i ffwrdd o’r gwaith fel gwyliau gyda thâl. Nodwch mai’r lleiafswm yw hyn, mae ganddo’ch hawl i gynnig mwy na 5.6 wythnos o flwyddyn i’r staff.
  • Ar gyfer unigolyn sydd yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos, mae 5.6 wythnos yn cyfateb i 28 diwrnod o wyliau’r flwyddyn. Mae y lleiafswm yn gallu cynnwys yr 8 gŵyl banc sydd mewn blwyddyn, felly’r lleiafswm mewn gwirionedd yw eu bod yn cael yr 8 gŵyl banc i ffwrdd gyda thâl, ac yna 20 diwrnod ychwanegol. Mae pob busnes yn wahanol, felly bydd rhai yn cynnig y lleiafswm uchod, eraill yn cynnig 28 diwrnod + yr 8 gŵyl banc ar ben hyn yn ychwanegol, rhai yn cynyddu gwyliau’r staff gyda hyd eu gwasanaeth ayyb, yn y pen draw, mae’n dod lawr i beth sydd yn mynd i fod yn fforddiadwy i’r Cylch/feithrinfa.
  • Bydd addasiadau i’w wneud i gyflogau’r staff yn ddibynnol ar pryd y byddent yn dechrau yn eu swydd. Os yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf o’r mis, yna bydd y cyfrifo yn syml, a dim addasiad i’w wneud:

Cyflog Misol = (Tâl yr awr  x  Oriau Wythnosol  x  52 Wythnos) / 12 Mis

  • Os bydd aelod o staff yn dechrau eu swydd yng nghanol y mis, yna bydd angen addasu eu cyflog cyntaf i’w talu am y nifer o ddiwrnodau gwaith y byddent yn ei weithio yn y mis hwnnw i osgoi gordaliad:

Enghraifft: Gweithiwr yn dechrau mewn Meithrinfa ar y 18/11/23, yn gweithio 30 awr yr wythnos, sef 6 awr y diwrnod, dydd Llun i Gwener, ac yn derbyn £12.50 yr awr.

Yma, bydd angen gweithio allan y cyflog am y cyfnod 18/11/2023 – 30/11/2023.

Nodwch bo ni’n cymryd bod 260 diwrnod gwaith mewn blwyddyn i’r aelod o staff newydd yma, h.y. 52 wythnos o waith, gweithio 5 diwrnod yr wythnos (52 x 5 = 260)

Felly mae angen cyfrifo cyflog yr aelod yma ar gyfer 1 diwrnod gwaith:

£12.50 yr awr x 6 awr = £75

Rhwng 18/11/2023 – 30/11/2023 mae 9 diwrnod gwaith

Cyflog Tachwedd Aelod Newydd: £75 y dydd  x  9 diwrnod = £675.00

  • Mae modd cyfrifo cyflog diwrnod unigolyn wrth rannu eu cyflog blynyddol gyda 260 diwrnod gwaith hefyd. Er enghraifft, byddai cyflog blynyddol yr unigolyn yn yr enghraifft uchod yn £12.50 x 30 x 52 = £19,500, a byddwch yn cael yr un ateb wrth rannu hwn gyda 260: £19,500 / 260 = £75 y dydd.
  • Mae’n debyg i weithio allan cyflog mis cyntaf rhywun, oni bai fod aelod o staff yn gorffen ar y diwrnod gwaith olaf o’r mis, bydd angen addasu’r gyflog os ydynt yn gorffen yn ystod y mis i adlewyrchu sawl diwrnod gwaith y byddant wedi ei weithio yn y mis olaf.
  • Tro yma, gallwn edrych ar esiampl gan ddefnyddio cyflog blynyddol rhywun:

Beth fydd cyflog olaf unigolyn sydd yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos, sydd yn ennill £19,500 y flwyddyn ac yn gorffen yn ei swydd ar y 20/11/2023

Gweithio 5 diwrnod yr wythnos am 52 wythnos y flwyddyn, felly cyfanswm o 260 diwrnodau gwaith mewn blwyddyn

Rhwng 01/11/2023 – 20/11/2023 mae 15 diwrnod gwaith

Cyflog Diwrnod = Cyflog Blynyddol / 260 

= £19,500 / 260 = £75 y diwrnod

Felly cyflog olaf am yr 15 diwrnod gwaith dyledus:

£75  x  15  =  £1,125

  • Os bydd gwyliau yn ddyledus i’r unigolyn, a bod ddim cyfle ganddynt i ddefnyddio’r gwyliau yma, bydd angen talu’r diwrnodau dyledus ar yr un raddfa’r diwrnod â’r uchod, h.y. £75 y diwrnod yn yr enghraifft yma.
  • Yn aml yn ystod y flwyddyn, bydd achosion lle mae newidiadau mewn amodau cytundebol gan aelodau staff, fel newid mewn graddfa tâl yr awr neu ostyngiad neu gynnydd mewn oriau gwaith wythnosol.
  • Pan fydd hyn yn digwydd, bydd cyflog misol yr aelod o staff yn newid, ac felly bydd angen cyfrifo’r gwahaniaeth wrth symud ymlaen. Os mae’r newid cytundebol yn rhywbeth sydd i ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf o’r mis hwnnw, yna byddwch yn syml yn newid y ffigwr priodol yn y cyfrifo, h.y. rhoi’r swm tâl yr awr neu’r oriau wythnosol newydd yn y cyfrifiad:

 Cyflog Misol = (£ yr awr x Oriau Wythnosol x 52 wythnos) / 12 mis

Os yw’r newid yn weithredol o unrhyw ddiwrnod arall (oni bai am y diwrnod gwaith cyntaf yn y mis hwnnw), bydd angen cyfuno dau gyfrifiad gwahanol er mwyn gweithio allan cyflog y mis hwnnw. O’r mis nesaf ymlaen defnyddir ffigyrau newydd yn unig

  • Yn yr enghraifft yma, byddwn yn edrych ar beth fydd cyflog mis Ionawr 2024 unigolyn sydd yn gweithio 35 awr yr wythnos, h.y. 7 awr y diwrnod, dydd Llun i Gwener, os maent yn derbyn codiad mewn tâl yr awr o £12.50 yr awr i £13.00 yr awr, a hynny yn weithredol o 11/01/2024.

Diwrnodau Gwaith rhwng 01/01/2024 – 10/01/2024 = 6 diwrnod

Graddfa Gyflog ddyddiol ar £12.50 yr awr: £12.50 x 7 awr y dydd = £87.50 y diwrnod

Diwrnodau Gwaith rhwng 11/01/2024 – 31/01/2024 = 15 diwrnod

 Graddfa Gyflog ddyddiol ar £13 yr awr: £13 x 7 awr = £91 y diwrnod

 Felly, o’r wybodaeth uchod, gallwn weithio allan mai cyflog mis Ionawr yr unigolyn yma fydd:

 (£87.50 x 6 diwrnod gwaith) + (£91.00 x 15 diwrnod gwaith) = £1,890

  • Beth fyddai cyflog mis Chwefror 2024 unigolyn sydd yn cael gostyngiad yn eu horiau gwaith wythnosol o fod yn gweithio 35 awr yr wythnos, sef 7 awr y diwrnod, dydd Llun i Gwener, lawr i weithio 30 awr yr wythnos, sef 6 awr y diwrnod, dydd Llun i Gwener, a hynny yn weithredol o 15/02/2024, ac ar raddfa o £12.50 yr awr?

Diwrnodau Gwaith rhwng 01/02/2024 – 14/02/2024 = 10 diwrnod

Graddfa Gyflog ddyddiol 01/02 – 14/02: £12.50 x 7 awr = £87.50 y diwrnod

Diwrnodau Gwaith rhwng 15/02/2024 – 29/02/2024 = 11 diwrnod

Graddfa Gyflog ddyddiol 15/02 – 28/02: £12.50 x 6 awr = £75 y diwrnod

Felly, o’r wybodaeth uchod, gallwn weithio allan mai cyflog mis Chwefror yr unigolyn yma fydd:

(£87.50 x 10 diwrnod gwaith) + (£75.00 x 11 diwrnod gwaith) = £1,700.00

  • Mae’r cytundebau yma yn golygu fod y staff yn cael eu talu am 39 wythnos gwaith y flwyddyn, ac yna yn cael eu talu am eu hawl gwyliau ar ben hyn. Y lleiafswm gwyliau a all gael ei dalu yw 5.6 wythnos y flwyddyn.
  • I gyfrifo cyflog misol unigolyn fydd yn ennill £12.50 yr awr am 30 awr yr wythnos, a hynny ar gytundeb tymor ysgol yn unig a hawl gwyliau o 5.6 wythnos y flwyddyn:

Cyflog: (£12.50 yr awr  x  30 awr yr wythnos  x  39 wythnos) / 12 mis = £1,218.75

Tâl Gwyliau: (£12.50 yr awr  x  30 awr yr wythnos  x  5.6 wythnos) / 12 mis = £175

Cyfanswm Cyflog Misol: £1,393.75

  •  Mae’r un peth yn wir am unrhyw oriau ychwanegol ar ben y 30 awr yr wythnos yma, neu oriau a fethwyd o’r 30 awr yr wythnos na soniwyd am gyda’r cytundebau 52 wythnos y flwyddyn, h.y. bydd angen i rain gael eu hychwanegu neu ei dynnu oddi ar y cyflog misol uchod ar y raddfa tâl yr awr briodol.
  • 5.6 wythnos yw’r lleiafswm statudol mae modd ei gynnig i unigolyn, ond mae modd cynnig hawl gwyliau mwy na hyn os ydych yn dymuno. Bydd unrhyw beth uwch yn fwy o gost i’r Cylch / Feithrinfa wrth gwrs, felly mae’n bwysig edrych a gwneud yn siŵr fod beth rydych yn gynnig yn mynd i fod yn fforddiadwy yn yr hirdymor.
  • Mae’n gwneud synnwyr i brosesu cytundebau tymor ysgol y flwyddyn i redeg gyda’r flwyddyn ysgol, h.y. eu bod yn dechrau ar 01 Medi ac yn rhedeg hyd 31 Awst y flwyddyn ganlynol. Does dim rhaid gwneud hyn, mae modd rhedeg cytundebau gyda’r flwyddyn ariannol, blwyddyn ‘calendr’ (Ionawr – Rhagfyr), neu o ddyddiad dechrau priodol pob aelod o staff. Ar gyfer yr enghreifftiau isod, byddwn yn prosesu nhw fel bod y cytundebau yn rhedeg gyda’r flwyddyn ysgol – os ydych yn prosesu rhai chi yn wahanol, mae’r un dulliau yn mynd i fod yn briodol, dim ond fod angen dechrau cyfri’r wythnosau o’ch dyddiad perthnasol chi.
  • Gyda dechreuwyr newydd ar y math yma o gytundeb, os ydynt yn dechrau yn eu swydd ar ddechrau’r flwyddyn Ysgol, yna byddwn yn rhannu’r gyflog am y 39 wythnos gwaith a 5.6 wythnos gwyliau yn hafal dros 12 mis.
  • Os yw aelod o staff yn dechrau yn ystod y flwyddyn ysgol, bydd angen cyfri sawl wythnos gwaith sydd ar ôl o’r dyddiad hwnnw, hyd ddiwedd tymor yr haf, a rhannu’r gyflog hwnnw yn hafal dros nifer o fisoedd sydd ar ôl rhwng y dyddiad dechrau a mis Awst. Dyma’r broses os ydych chi’n rhedeg y cytundebau gyda’r flwyddyn ysgol. Os ydych yn rhedeg y cytundebau fel arall, bydd angen cyfri sawl wythnos a mis sydd ar ôl i gyd-fynd a hynny
  • Yn yr enghraifft yma, byddwn yn edrych ar gyflog unigolyn sydd yn gweithio 30 awr yr wythnos, dros 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i Gwener), felly 6 awr y diwrnod, ar gyflog o £12.50 yr awr, hawl gwyliau o 5.6 wythnos y flwyddyn, a’u bod yn dechrau yn eu swydd ar y 5ed o Ionawr, 2024.
  • Y peth cynta’ sydd angen ei wneud yw cyfri sawl wythnos gwaith sydd ar ôl o’r tymor ysgol presennol, h.y. sawl wythnos bydd yr unigolyn yma yn gweithio rhwng 05/01/2024 a 31/08/2024. Bydd hyn yn amrywio ychydig ymhob Sir yn ddibynnol ar y calendr academaidd efallai, ond y ffordd o neud hyn yw cyfri pob diwrnod fel 0.2 wythnos, ac o’r calendr mae 23.4 wythnos gwaith ar ôl yn y flwyddyn ysgol yma.
  • Mae wedyn angen gweithio allan beth yw y tâl gwyliau cyfatebol i gyd-fynd gyda’r 23.4 wythnos gwaith yma, wedi ei selio ar hawl gwyliau o 5.6 wythnos ar gyfer blwyddyn yn cynnwys 39 wythnos o waith. I wneud hyn, byddwn yn defnyddio’r cyfrifiad: (5.6 wythnos / 39 wythnos) x 23.4 wythnos, sydd yn rhoi ateb o 3.36 wythnos o hawl gwyliau dyledus i’r aelod o staff newydd, am eu gwaith rhwng 05/01/24 – 31/08/24.
  • Mae angen gwybod sawl mis mae’r gyflog yn mynd i gael ei rannu dros, a gan bo ni’n gweithio ar sail cytundebau yn rhedeg gyda’r flwyddyn ysgol, yr ateb yn yr achos yma yw 8 mis (Ionawr – Awst).
  • Gyda’r wybodaeth uchod, gallwn weithio allan mai cyflog a thâl gwyliau misol y dechreuwr newydd yma dros yr 8 mis nesaf fydd:

Cyflog = (£12.50 yr awr x 30 awr yr wythnos x 23.4 wythnos)/ 8 mis = £1098.46

Tâl Gwyliau = (£12.50 yr awr x 30 awr yr wythnos x 3.36 wythnos)/ 8 mis = £157.50

  • Os yw cytundebau’r staff yn rhedeg gyda’r flwyddyn ysgol, a bod aelod o staff yn gorffen eu swydd ar ddiwedd tymor yr haf, does dim angen addasu cyflog olaf yr unigolyn, dim ond talu mis cyfan fel yr arfer.
  • Gan fod y tymor ysgol yn gorffen diwedd Gorffennaf, os mai diwrnod olaf cyflogaeth rywun yw 31 Awst, diwrnod olaf yr unigolyn yma yn y gwaith fydd diwedd Gorffennaf, ond bydd dal angen talu cyflog mis Awst yn llawn i’r unigolyn yma gan fod y gyflog am y 39 wythnos gwaith sydd wedi bod yn ystod y flwyddyn sydd newydd fod, wedi ei rannu yn pro rata dros 12 mis, ac mae’r gwaith yma i gyd wedi ei gyflawni gan y staff yn barod, felly mae’r gyflog yn ddyledus.
  • Yn debyg i staff newydd sydd yn dechrau, os yw unigolyn yn gorffen eu swydd yn ystod y flwyddyn ysgol, bydd angen addasu cyflog olaf yr unigolyn i adlewyrchu hyn. Bydd angen gweithio allan sawl wythnos mae’r unigolyn wedi gweithio o ddechrau’r flwyddyn ysgol hyd eu dyddiad gadael, ac yna cymharu’r ffigyrau hyn gyda faint o gyflog maent wedi ei dderbyn yn barod i weld faint sydd yn ddyledus iddynt.
  • Yn yr enghraifft yma, byddwn yn gweithio allan cyflog olaf unigolyn sydd ar gytundeb tymor ysgol yn unig yn gweithio 30 awr yr wythnos, h.y. 6 awr y dydd Llun i Gwener, ar gyflog o £12.50 yr awr, sy’n derbyn hawl gwyliau blynyddol o 5.6 wythnos y flwyddyn, a byddwn yn gweithio allan y gyflog olaf ar sail eu bod yn gorffen gweithio ar y 12 Chwefror 2024.
  • Yn yr un modd a gweithio allan cyflog cyntaf unigolyn, y peth cyntaf i wneud yw cyfri sawl wythnos mae’r aelod yma wedi ei weithio yn y flwyddyn ysgol, h.y. sawl wythnos gwaith sydd rhwng 01/09/2024 – 12/02/2024. Yn yr achos yma, roedd 20.4 wythnos gwaith rhwng y ddau ddyddiad.
  • Ar ôl gweithio allan sawl wythnos gwaith sydd yna yn y cyfnod, mae angen gweithio allan yr hawl gwyliau cyfatebol, a byddwn yn gwneud hynny wrth ddefnyddio’r cyfrifiad yma: (5.6 wythnos / 39 wythnos) x 20.4 wythnos, ac mae hynny yn rhoi’r ateb bod 2.93 wythnos o hawl gwyliau yn ddyledus i’r unigolyn am y cyfnod 01/09/2023 – 12/02/2024.
  • O’r wybodaeth yma, gallwn weithio allan beth yw cyfanswm y cyflog y dylai’r unigolyn yma fod wedi ei dderbyn am y cyfnod llawn:

Cyflog = £12.50 yr awr x 30 awr yr wythnos x 20.4 wythnos = £7650.00

Gwyliau = £12.50 yr awr x 30 awr yr wythnos x 2.93 wythnos = £1098.46

Cyflog dylai fod wedi derbyn = Cyflog + Gwyliau = £7,650 + £1098.46 = £8,748.46

  • Dyma’r cyfansymiau dylai’r unigolyn dderbyn am eu cyflogaeth llawn rhwng 01/09/2023-12/02/2024. Ar ôl gweithio hyn allan, mae angen wedyn tynnu beth maent wedi ei dderbyn yn barod gyda chyflogau Medi 2023 hyd Ionawr 2024.
  • Cyflog a thâl gwyliau misol yr unigolyn yw:

Cyflog = (£12.50 yr awr x 30 awr x 39 wythnos)/12 mis = £1,218.75 y mis

Gwyliau = (£12.50 yr awr x 30 awr x 5.6 wythnos)/12 mis = £175.00 y mis

Cyfanswm Cyflog Misol Arferol = Cyflog + Gwyliau = £1,218.75 + £175.00 = £1,393.75

  • Dyna’r symiau cyflog misol byddai’r unigolyn yma wedi derbyn – 5 mis o gyflog rhwng Medi a Ionawr, felly beth maent wedi derbyn yw:

Cyfanswm Cyflog Misol wedi derbyn x 5 mis = £1,393.75 x 5 = £6,968.75

  • Y peth olaf i wneud yw tynnu’r swm yma sydd wedi cael ei dderbyn yn barod rhwng Medi a Ionawr, a tynnu hwnnw allan o’r cyfanswm a weithiwyd allan ar sail sawl wythnos gwaith sydd rhwng 01/09/2023 a dyddiad gorffen yr unigolyn. Y cyflog olaf dyledus i’r aelod yma yw:

Cyflog Olaf = £8,748.46 £6,968.75 = £1,779.71

  • Gall hwn fod yn uwch na’r swm misol arferol, oherwydd bod yr unigolyn yn cael eu talu’n pro rata, ac mae faint o wythnosau o waith maent wedi cwblhau yn y cyfnod rhwng Medi a Chwefror yn uwch na faint o gyflog maent wedi derbyn. Mae hyn oherwydd pryd mae’r gwyliau ysgol yn disgyn. Fel enghraifft byddai gwyliau Pasg (2 wythnos) na gwyliau’r haf (6 wythnos) heb fod eto, a gan fod y gyflog am y flwyddyn gyfan wedi ei rannu’n hafal dros 12 mis, mae ychydig mwy o gyflog yn ddyledus iddynt na’r disgwyl efallai.
  • Bydd sefyllfaoedd yn aml lle mae newidiadau mewn graddfeydd tâl yr awr neu oriau gwaith wythnosol staff yn ystod y flwyddyn ysgol. Un enghraifft posib o hyn bydd ym mis Ebrill pan mae newidiadau i’r isafsymiau cyflog yn aml
  • Bydd y newid hwn yn meddwl bod cyflog misol yr unigolyn yn newid, ac i gyfrifo hyn, bydd angen gwneud rhywbeth tebyg i’r cyfrifo wrth edrych ar ddechreuwyr newydd yn ystod y flwyddyn ysgol, h.y. bydd angen cyfri sawl wythnos gwaith sydd ar ôl yn y flwyddyn ysgol, a gweithredu’r gwahaniaeth dros yr wythnosau hynny, ac yna rhannu dros y misoedd sydd ar ôl o’r newid tan ddiwedd tymor yr haf
  • Beth fydd tâl misol newydd unigolyn sydd yn cael codiad cyflog o £11.44 yr awr, i £12.50 yr awr o 01/02/2024 ymlaen, a’u bod yn gweithio 20 awr yr wythnos?

Cyflog Misol cyn y newid: (£11.44 yr awr x 20 awr x 39 wythnos)/12 mis = £743.60

Tâl Gwyliau Misol cyn y newid: (£11.44 yr awr x 20 awr x 5.6) / 12 mis = £106.77

Codiad mewn tâl yr awr = £1.06 yr awr

Wythnosau Gwaith rhwng 01/02/24 – 31/08/24: 19.8 wythnos

Wythnosau Gwyliau rhwng 01/02/24 – 31/08/24: (5.6/39) x 19.8 = 2.84 wythnos

Misoedd ar ôl yn y flwyddyn ysgol: 7 mis

Codiad Cyflog: (£1.06 x 20 awr x 19.8 wythnos) / 7 mis = £59.97 y mis

Codiad Tâl Gwyliau: (£1.06 x 20 awr x 2.84 wythnos) / 7 mis = £8.61 y mis

O’r wybodaeth uchod, cyflog a thâl gwyliau misol newydd yr unigolyn yma ar gyfer mis Chwefror ac am weddill y flwyddyn ysgol hon bydd:

Cyflog Misol Newydd: £743.60 + £59.97 = £803.57

Tâl Gwyliau Misol Newydd: £106.77 + £8.61 = £115.38

  • Beth fydd cyflog misol newydd unigolyn sydd yn cael gostyngiad o weithio 30 awr yr wythnos ar £12.50 yr awr, i fod yn gweithio 25 awr yr wythnos ar £12.50 yr awr, a hynny yn weithredol o 01/03/2024

Cyflog Misol cyn y newid: (£12.50 yr awr x 30 awr x 39 wythnos)/12 mis = £1,218.75

Tâl Gwyliau Misol cyn y newid: (£12.50 yr awr x 30 awr x 5.6) / 12 mis = £175.00

Gostyngiad mewn oriau = 5 awr yr wythnos

Wythnosau Gwaith rhwng 01/03/24 – 31/08/24: 16.8 wythnos

Wythnosau Gwyliau rhwng 01/03/24 – 31/08/24: (5.6/39) x 16.8 = 2.41 wythnos

Misoedd ar ôl yn y flwyddyn ysgol: 6 mis

Gostyngiad Cyflog: (£12.50 x (-5 awr) x 16.8 wythnos) / 6 mis = – £175 y mis

Gostyngiad Tâl Gwyliau: (£12.50 x (-5 awr) x 2.41 wythnos) / 6 mis = – £25.13 y mis

O’r wybodaeth uchod, cyflog a thâl gwyliau misol newydd yr unigolyn yma ar gyfer mis Mawrth ac am weddill y flwyddyn ysgol hon bydd:

Cyflog Misol Newydd: £1,218.75 – £175.00 = £1,043.75

Tâl Gwyliau Misol Newydd: £175.00 – 25.13 = £149.87

  • Yn ogystal â staff fydd yn gweithio yn y Cylch / Feithrinfa sydd ar gytundebau gydag oriau craidd wythnosol bydd dim yn newid am y flwyddyn. Yn aml bydd rhai aelodau, megis staff banc o bosib, a fydd yn gweithio ac yn cael eu talu am oriau amrywiol pob mis
  • Gyda’r math yma o gytundeb, byddwn yn awgrymu eich bod yn talu’r oriau yn y mis canlynol, e.e. talu unrhyw oriau a weithwyd ym mis Ionawr gyda chyflogau mis Chwefror. Os nad ydych yn gwneud hyn, byddwn yn awgrymu cael ryw fath o ddyddiad fel ‘cut off point’ pob mis oleua, e.e. dywedwn eich bod yn talu cyflogau ar y 25ain o bob mis, gallwch gymryd dyddiad fel y 15fed fel enghraifft, ac felly pob mis rydych yn talu unrhyw oriau a weithwyd rhwng 16eg o’r mis blaenorol a’r 15fed o’r mis canlynol gyda chyflog y mis hwnnw
  • Er nad oes gan y math yma o staff oriau cytundebol sefydlog – maent lawr i weithio bob wythnos, ac mae dal ganddynt yr hawl i dderbyn tâl gwyliau i gyd-fynd a’r oriau maent yn ei weithio yn y Cylch / Feithrinfa.
  • Gyda thâl gwyliau staff o’r math yma, mae fyny i’r cyflogwr benderfynu pryd bydd hyn yn cael ei dalu. Bydd rhai yn dewis talu hwn yn fisol, yr un pryd y maent yn talu’r gyflog am yr oriau a weithwyd gan yr unigolyn, a bydd eraill yn talu’r oriau gwyliau yn ystod y gwyliau ysgol, e.e. Nadolig, Pasg a mis Awst, i wneud yn siŵr fod y staff yn cael eu talu hyd yn oed pan mae’r Cylch / feithrinfa wedi cau
  • Er mwyn gweithio allan faint sydd yn ddyledus i’r unigolion yma fel tâl gwyliau, mae angen gweithio allan beth yw 12.07% o’r cyfanswm oriau a weithwyd yn ystod y cyfnod
  • 12.07% yw’r canran cyfatebol o beth yw 5.6 wythnos statudol o wyliau i unigolyn sydd yn gweithio 52 wythnos y flwyddyn, gweler y cyfrifon isod:

(5.6 wythnos gwyliau / 46.4 wythnos gwaith) x 100% = 12.07%

  • Yn yr enghraifft yma, byddwn yn edrych at sut i gyfrifo y tâl gwyliau i gyd-fynd a’r oriau a weithwyd gan aelod o staff yn ystod blwyddyn ysgol gyfan, h.y. Medi i Orffennaf. Byddant yn derbyn y tâl i gyd fel eu cyflog ym mis Awst pan mae’r Cylch wedi cau. Rydym yn mynd i gyfrifo hyn ar sail bod yr unigolyn wedi gweithio cyfanswm o 245 awr yn ystod y flwyddyn

12.07% o’r oriau a weithwyd fydd yn ddyledus fel tâl gwyliau, felly yn syml:

Oriau Gwyliau = 245 awr x 0.1207   

                        = 29.57 awr o wyliau i’w dalu ym mis Awst

Nodwch wrth luosi gyda 0.1207, rydych yn cael y canran 12.07% yn syth. Bydd o’r oriau yma i’w talu ar raddfa arferol yr unigolyn.

  • Ar rai adegau mae staff wedi gweithio oriau ychwanegol. Rhaid bod y rheolwr yn cymeradwyo / awdurdodi’r oriau yma.
  • Oriau ychwanegol yn golygu unrhyw oriau sydd wedi ei weithio uwchben oriau cytundebol
  • Mae angen talu staff tâl gwyliau am yr oriau ychwanegol. Mae’r canran tâl gwyliau sef 12.07% yn cael ei luosi gyda’r tâl yr awr ac oriau ychwanegol a weithwyd.
  • Os oes gan aelod o staff fwy nag un swydd, nid oes angen i chi fel cyflogwyr wneud unrhyw beth gwahanol i’r weithdrefn arferol.
  • Nid oes gwahaniaeth a yw’r ail neu’r drydedd swydd mewn Cylch Meithrin ai peidio. Mae pob Cylch yn gyflogwyr ar wahân.
  • Mae CthEM (HMRC) yn rhannu’r cod treth ac yn danfon y wybodaeth i’r darparwr cyflogres am resymau treth ac Yswiriant Gwladol.