Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Categorïau

Dyma gyflwyniad ar faterion yn ymwneud â graddfeydd cyflog, tâl statudol a throthwyon trethi a phensiynau. I ddechrau’r cyflwyniad, cliciwch yma.

Lawrlwythwch llyfryn sy’n cyd-fynd â’r cyflwyniad yma

 

  • Pob blwyddyn, bydd angen cofio bod angen gweithredu newidiadau i’r Isafswm Cyflog, a fydd hyn o bosib yn effeithio ar gyflogau’r staff
  • Bydd hyn fel arfer yn digwydd ar ddechrau mis Ebrill, ond gall fod unrhyw adeg o’r flwyddyn, felly mae’n bwysig cadw’n gyfredol â chyhoeddiadau’r Llywodraeth
  • Os mae aelodau staff ar gytundebau tymor ysgol yn unig, cofiwch fod angen gweithredu’r newid dros yr wythnosau gwaith sy’n weddill yn y flwyddyn ysgol – gweler sleidiau yn y gweminar cyflogau am enghreifftiau
  • Gweler graddfeydd ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd yn dechrau Ebrill 2025:
  • 21 a hŷn (£12.21); 18 i 20 (£10.00); O dan 18 (£7.55); Prentis (£7.55)
  • Nodwch fod angen cadw cofnod o ddyddiad geni’r staff yn ogystal â’r graddfeydd, gan fod hi’n bosib bod angen addasu eu graddfa tâl yr awr ar eu pen-blwydd, yn ogystal â phan fydd newid i’r isafswm.
  • Mae yn erbyn y gyfraith i dalu llai na’r Isafswm Cyflog i unrhyw un, felly mae’n rhywbeth sydd yn rhaid ei weithredu pan gaiff ei gyhoeddi.

 

  • Mae gan bob unigolyn hawl i ennill swm penodol o gyflog yn ddi-dreth pob blwyddyn ariannol
  • £12,570 yw’r swm ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26, a bydd unrhyw gyflog dros hynny yn y flwyddyn yn cael ei drethu 20%, hyd at £50,270. Yna 40% neu 45% dros hynny.
  • Enghraifft: Os mae cyflog rhywun yn £20,000 y flwyddyn, byddent yn talu » (£20,000 – £12,570) = £7,430
    » 20% o £7,430 = £1,486 o dreth yn y flwyddyn ariannol 2025/26
  • Boed yn gweithio un swydd yn unig, neu nifer o swyddi’r un pryd, mae’r cyfanswm di-dreth yr un peth i bawb, a bydd hynny yn cael ei adlewyrchu yng nghod treth yr unigolyn
  • Pob mis, bydd CThEF (HMRC) yn edrych ar faint mae unigolyn wedi’w dderbyn yn y flwyddyn ariannol gyfan wrth gyfrifo’r dreth; dim cyflog y mis hwnnw yn unig
  • Fel hyn, os mae cyflog rywun yn amrywio o fis i fis, bydd y cyfanswm treth yn dal i fod yn gywir, a bydd dim gordaliad / tan-daliad treth i’w wirio erbyn diwedd y flwyddyn ariannol
  • Cyfrifoldeb yr unigolyn yw sicrhau bod eu cod treth yn gywir, dim y Cyflogwr, a bydd angen iddynt gysylltu yn uniongyrchol gyda’r CThEF os oes problem neu os maent yn dymuno rhannu eu hawl di-dreth dros sawl swydd ar y rhifau ffôn isod:
  • » Llinell Gymraeg: 0300 200 1900
  • » Llinell Saesneg: 0300 200 3300
  • Cod treth unigolyn efo 1 swydd yn unig, ac felly hefo’u hawl cyfan i ennill £12,570 o gyflog yn ddi-dreth bydd C1257L
  • Nodwch 12,570 / 10 = 1,257 felly dyma le mae’r rhif hwnnw yn dod o. Mae’r C ar y dechrau oherwydd ein bod yng Nghymru, a’r L yn dynodi’r hawl i lwfans di-dreth arferol
  • Os yw unigolyn efo dau neu fwy o swyddi, bydd y rhifau o fewn eu codau treth ymhob swydd gyda’i gilydd yn adio i wneud 1257, neu mae modd cael yr hawl i gyflog di-dreth cyfan ar un swydd, a bydd y swyddi wedyn ar god treth BR, sydd yn golygu bod pob ceiniog sydd yn cael ei ennill yn y swyddi eraill yn cael eu trethu 20%
    » https://www.gov.uk/tax-codes
  • Bydd unrhyw gyflog mae unigolyn yn ennill sydd dros y trothwy o £1,048 hyd at £4,189 gros mewn mis yn cael didyniad o 8% fel cyfraniad Yswiriant Gwladol y Cyflogai. Bydd incwm misol gros dros £4,189 y mis yn derbyn didyniad o 2%.
  • Enghraifft: Os mae unigolyn yn ennill £1,500 mewn mis penodol, bydd cyfraniad o (£1,500 – £1,048) x 8% = £36.16 o’u cyflog gros yn cael ei dalu drosodd i’r CThEF.
  • Bydd cyfrifiad tebyg yn cael ei ddefnyddio i weithio allan cyfraniad y Cyflogwr, ond hwnnw yn 15% ar unrhyw beth dros £416.66 y mis, a chofiwch hefyd bod y £10,500 cyntaf o Yswiriant Gwladol y Cyflogwr ymhob blwyddyn ariannol yn debygol o fod am ddim – gwelwch y gweminar CThEF am y meini prawf a rhagor o fanylion.
  • Yn wahanol i dreth, mae cyfrifiad YG yn edrych ar yr incwm o fewn y mis wrth gyfrifo’r cyfraniadau, dim yn edrych ar incwm y flwyddyn ariannol gyfan pob mis.
  • Yn daladwy am 39 wythnos
  • Gweler Llawlyfr Staff Cylch Meithrin ar dudalen Polisïau Cylchoedd Meithrin ar y fewnrwyd am wybodaeth lawn am hawliau mamolaeth, tadolaeth, rhianta ar y cyd ac absenoldeb mabwysiadu
  • 6 wythnos gyntaf ar 90% o gyflog cyfartaledd gros yr aelod o staff
  • 33 wythnos nesaf ar £187.18 yr wythnos, neu 90% o’i chyflog cyfartaledd – pa bynnag un yw’r isaf
  • £187.18 yw’r raddfa tâl mamolaeth statudol ar gyfer 2025/26, bydd hwn yn newid pob blwyddyn ariannol
  • Cyflogwr yn cael lleiafswm o 92% o’r tâl mamolaeth statudol yma yn ôl gan yr CThEF – gweler ein gweminar ar CThEF am fwy o wybodaeth am sut i hawlio’r arian yma yn ôl, neu:
    » Cael help ariannol gyda thâl statudol: Yr hyn y gallwch ei adennill – GOV.UK (www.gov.uk)
  • Yn daladwy am 2 wythnos ond yn gallu cymryd 1 wythnos yn unig.
  • Tâl ydi £187.18 yr wythnos, neu 90% o gyflog cyfartaledd – pa un bynnag yw’r isaf
  • £187.18 yw’r raddfa tâl tadolaeth statudol ar gyfer 2025/26, bydd hwn yn newid pob blwyddyn ariannol
  • Gweler Llawlyfr Staff Cylch Meithrin ar dudalen Polisïau Cylchoedd Meithrin ar y fewnrwyd am wybodaeth lawn am hawliau mamolaeth, tadolaeth, rhianta ar y cyd ac absenoldeb mabwysiadu
  • Cyflogwr yn cael lleiafswm o 92% o’r tâl tadolaeth statudol yma yn ôl gan yr CThEF – gweler cyflwyniad ar CThEF am fwy o wybodaeth ar sut i hawlio’r arian yma yn ôl, neu:
    » Cael help ariannol gyda thâl statudol: Yr hyn y gallwch ei adennill – GOV.UK (www.gov.uk)
  • Trothwyon enillion y flwyddyn dreth bresennol​:
Cyfnod cyfeirnod tâl
2025/26 Blynyddol 1 wythnos Pythefnos 4 wythnos 1 mis 1 chwarter Hanner blynyddol
Lefel isaf enillion £6,240 £120 £240 £480 £520 £1,560 £3,120
Trothwy enillion ar gyfer cofrestru awtomatig £10,000 £192 £384 £768 £833 £2,499 £4,998
Lefel uchaf £50,270 £967 £1,934 £3,867 £4,189 £12,568 £25,135

 

  • Mae mwy o wybodaeth am eich dyletswyddau fel cyflogwr i gofrestru gweithwyr yn awtomatig ar gynllun pensiwn yn ein gweminar pensiwn ac ar wefan y Pensions Regulator:
  • Cyflogwyr | The Pensions Regulator