Categorïau
- Er mwyn i aelod o staff fod yn gymwys i dderbyn tâl salwch statudol trwy eu Cyflogwr, mae’n rhaid eu bod yn bodloni meini prawf penodol. Un o’r amodau yw bod angen i’r aelod o staff fod gyda chytundeb efo’r Cyflogwr hwnnw, â’u bod wedi bod yn gweithio o dan y cytundeb hwnnw cyn eu cyfnod salwch
- Yr ail amod yw bod rhaid i’r aelod o staff fod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am o leiaf 4 diwrnod yn olynol
- Yn ogystal â’r uchod, mae’n rhaid eu bod yn ennill cyflog o leiaf £120 yr wythnos ar gyfartaledd yn eu swydd
- Ac yn olaf, os mae’r aelod o staff i ffwrdd am gyfnod sydd yn hirach na 7 diwrnod, mae’n rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth o’r salwch
- Graddfa tâl salwch statudol ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2021 hyd diwedd Mawrth 22, yw £96.35 yr wythnos. Nodwch fod y swm yma yn newid yn flynyddol, a bod dim dewis ond gweithredu y tâl yma os mae’r aelod o staff yn bodloni’r meini prawf
- Nodwch nad yw’r nifer o ddiwrnodau’r wythnos mae’r aelod o staff yn ei weithio yn gwneud gwahaniaeth i’r tâl salwch, os ydynt yn ennill dros y trothwy o £120 yr wythnos ar gyfartaledd, byddant yn gymwys i dderbyn y tâl salwch statudol o £96.35 drwy’r Cyflogwr
- Mae tâl salwch statudol yn daliadwy am hyd at 28 wythnos, gyda’r 3 diwrnod cyntaf o salwch yn ddi-dâl, h.y. mae angen bod aelod o staff yn sâl am o leiaf 4 diwrnod cyn gallu cael tâl salwch statudol gan y Cyflogwr
- Bydd didyniadau treth ac yswiriant gwladol ar dâl salwch statudol yn cael eu gwneud yr un peth ag y byddent ar gyflog arferol unigolyn
- Os yw aelod o staff yn cael cyfnodau rheolaidd o salwch, mae siawns y bydd rhain yn cael eu cyfri fel cyfnodau cysylltiedig pan mae’n dod i brosesu’r tâl salwch. I gael eu hadnabod fel cyfnodau cysylltiedig, mae’n rhaid bod y cyfnodau salwch yma o leiaf 4 diwrnod o hyd yr un, ac yn 8 wythnos neu lai ar wahân.
- Bydd yr hawl i dderbyn tâl salwch statudol gan y cyflogwr yn dod i ben os bydd y cyfnodau parhaol o salwch cysylltiedig yn parhau am dros 3 blynedd
- Os yw aelod o staff i ffwrdd am gyfnod hirach na 7 diwrnod yn olynol, mae’n rhaid iddynt ddarparu nodyn ffitrwydd
- Gallant gael un o’r rhain gan eu doctor, neu gan ddoctor yn yr ysbyty
- Yn ogystal â’r uchod, bydd rhai cyflogwyr yn fodlon derbyn nodyn ffitrwydd gan physiotherapists, podiatrists neu occupational therapists hefyd. Bydd y nodiadau yma yn cael eu galw yn ‘Allied Health Professional Health and Work Report’
- Os yw aelod o staff i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, â’u bod nhw ddim yn bodloni’r meini prawf i allu cael tâl salwch statudol drwy eu cyflogwr, mae siawns y bydd modd iddynt hawlio ‘Universal Credit’ neu rywbeth o’r enw ‘Employment and Support Allowance’ (ESA)
- Er mwyn cefnogi cais yr unigolyn am yr uchod, bydd angen i’r cyflogwr lenwi ffurflen o’r enw SSP1 â’i roi i’r aelod o staff sydd yn sâl. Mae’r ffurflen yma ar gael ar wefan CthEM (HMRC), sydd ar y linc isod:
- Bydd angen darparu’r ffurflen SSP1 i aelod o staff sydd ddim yn gymwys i dâl salwch statudol o fewn 7 diwrnod gwaith o ddechrau eu cyfnod o salwch
- Os yw tâl salwch statudol aelod o staff yn dod i ben, eto bydd angen i’r cyflogwr yrru’r ffurflen SSP1 iddynt, a bydd angen gwneud hynny unai o fewn 7 diwrnod i ddiwedd eu cyfnod o dâl salwch statudol, os mae’r cyfnod yn dod i ben yn annisgwyl ac mae’r unigolyn yn dal i fod i ffwrdd yn sâl, neu ar ddechrau/cyn dechrau’r 23ain wythnos o salwch os yw eu hawl i dâl salwch statudol yn debygol o ddod i ben cyn eu cyfnod o salwch
- Pan fydd aelod o staff wedi bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, gall y cyflogwr ddidynnu’r oriau a gollwyd oddi ar ei gyflog. Byddai’r gweithiwr yn derbyn TSS am y cyfnod salwch os yw’r cyfnod o salwch dros dri diwrnod.
- Does dim angen didynnu diwrnodau salwch oddi wrth gyflog staff banc gan nad oes oriau cytundebol ganddynt. Fodd bynnag, gallent fod a hawl i TSS os ydynt yn gymwys (dibynnol ar gyflog cyfartalog).
- Ar gyfer gweithwyr tymor ysgol yn unig, mae’n bwysig nodi mae ond yr elfen cyflog sydd yn cael ei ostwng i adlewyrchu salwch. Mi fydd yr elfen gwyliau yn aros yr un peth
- Mae gwyliau statudol yn cael ei gronni (safio) tra bod gweithiwr i ffwrdd o’r gwaith ar salwch.
- Gall unigolyn gario hawl gwyliau na chaiff ei ddefnyddio oherwydd salwch i’r flwyddyn wyliau nesaf.
- Gall gweithiwr ofyn am gymryd ei wyliau am yr amser y mae i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, ond mae’n bwysig i nodi ni chaiff y cyflogwr orfodi gweithwyr i gymryd gwyliau blynyddol pan fyddant yn gymwys i gael absenoldeb salwch.
- Mae gan weithiwr salwch hir dymor hawl i wyliau blynyddol o hyd
- Tal salwch estynedig yw pan fydd y cyflogwr yn cynnig mwy na’r isafswm, sef Tâl Salwch Statudol (TSS). Does dim rhaid gwneud hyn, dim ond TSS sydd yn orfodol.
- Er enghraifft; gall cytundeb gwaith nodi bod 20 diwrnod tâl salwch llawn gyda nhw, wedyn 20 diwrnod hanner tl salwch wedyn derbyn TSS yn unig. Hwn yn hollol ddibynnol ar beth mae’r cyflogwr am gynnig.
- Mae angen cadw cofnod o ddiwrnodau salwch pawb, a’r Cylch fel cyflogwyr sydd yn gyfrifol am hyn.
- Popeth yn aros yr un fath o ran y meini prawf a phroses i bob cyflogwr.
- Cyfrifoldeb y cyflogwr yw i brosesu’r absenoldeb salwch ar gyfer y swydd yna yn unig. Hynny yw, os oedd aelod o staff yn gweithio rhan amser ac mae’r salwch yn cwympo ar y diwrnod nad yw’r aelod yn y gwaith, does dim angen i’r cyflogwr wneud unrhyw beth. Cyfrifoldeb y cyflogwr ble roedd yr aelod o staff fod gweithio yw hyn.
- Os nad yw’r gweithiwr yn cyrraedd y meini prawf, mae’r cyflogwr yn llenwi’r ffurflen SSP1 a gall yr aelod o staff fod yn gymwys am ESA.
