Bydd y cyfnod enwebu ar gyfer Seremoni Gwobrau flynyddol Mudiad Meithrin, sy’n cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y darpariaethau, yn agor ar Ddiwrnod Santes Dwynwen eleni, sef Dydd Llun y 25ain o Ionawr.
Mae Mudiad Meithrin yn annog enwebiadau i aelodau staff a gwirfoddolwyr Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi neu Feithrinfeydd Dydd am wobr mewn deg categori. Llynedd, torrwyd pob record o ran niferoedd gan i dros 450 o enwebiadau gael eu cyflwyno, a’r gobaith ydi anelu at yr un llwyddiant eleni eto.
Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Mae’r Seremoni Gwobrau yn rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad. Dyma gyfle i unrhyw un enwebu Cylch Meithrin; Cylch Ti a Fi neu feithrinfa ddydd – am wobr mewn un o ddeg gwahanol gategori.”
Mae’r holl fanylion ar gael ar wefan Mudiad Meithrin – www.meithrin.cymru/enwebu – gyda gwahoddiad i bawb enwebu cylch neu feithrinfa sy’n gwneud gwaith da mewn amryw feysydd.
Ychwanegodd Leanne: “Y cyfan sydd rhaid gwneud yw nodi 3 rheswm pam eich bod yn gwneud yr enwebiad. Mae modd i chi hefyd ychwanegu hyd at 3 llun i’r enwebiad.”
Ategodd Iola Jones, Pennaeth Cyfathrebu a Phartneriaethau’r Mudiad:
“Mae gan bawb gyfle i enwebu hyd at ddeuddeg o’r gloch nos Lun y 1af o fis Mawrth. Gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i enwebu Cylch Meithrin, Cylch Ti a Fi neu feithrinfa ddydd sy’n haeddu cydnabyddiaeth ac edrychwn ymlaen at dderbyn llu o enwebiadau yn ystod yr wythnosau i ddod!”
Mi fydd y cyfnod enwebu yn dod i ben ar y 1af o Fawrth 2021. Caiff y manylion llawn ynghylch Seremoni Wobrau 2021 ei gyhoeddi yn nes at yr amser. Cyn hynny bydd y panel dyfarnu’n cyfarfod ddiwedd mis Mai cyn cyhoeddi rhestr fer ar gyfer pob categori erbyn diwedd mis Mehefin.