Yn ein cyfres podlediadau Saesneg #BabyStepsIntoWelsh mae’r gyflwynwraig hoffus Nia Parry wedi bod yn sgwrsio gyda theuluoedd am eu profiadau, gofidiau a chwestiynau am Addysg Gymraeg. Gallwch wrando a dilyn y gyfres yma: www.podfollow.com/babysteps.

Yn y bennod yma, bu Nia yn sgwrsio gyda Fran Rumbelow, sydd wedi codi pac o Nottingham i Sir Benfro yn ddiweddar a Sarah Coltman, yn wreiddiol o Essex sydd bellach yn byw yn Abertawe ers 6 mlynedd. Er bod Fran a Sarah erioed wedi cwrdd, mae ganddynt lawer yn gyffredin! Mae’r ddwy, gyda’u teulu wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru a’r ddwy wedi penderfynu anfon y plant i’r Cylchoedd Meithrin a’r ysgolion Cymraeg lleol.

Er mai Saesneg ydi iaith y ddau gartref, mae’r plant i gyd yn derbyn addysg Gymraeg. Roedd Nia yn awyddus i wybod pam eu bod wedi dewis Cymru fel cartref i fagu eu teuluoedd.

“Mae fy ngŵr o Abertawe yn wreiddiol. Ryda ni’n caru mynd i’r traeth a threulio amser yn yr awyr agored. Wrth feddwl cael teulu a setlo i lawr, roedd yn dod yn amlwg i ni mai dyma oedd y lle gorau i wneud hyn. Dwi byth yn gweld fy hun yn mynd yn ôl i Essex i fyw!” Sarah

Roedd penderfyniad Fran yn un eithaf sydyn i gymharu. Er ei bod wedi gwario llawer o amser yn Sir Benfro ar ei gwyliau yn tyfu i fyny, ac mae ei rhieni wedi symud yma, yn ystod pandemig cofid 19 wnaeth Fran a’i theulu godi pac.

“Mwyaf sydyn, daeth ein swyddi yn llawer mwy hyblyg a gallwn weithio o unrhyw le! Felly, yng nghanol y pandemig, fe benderfynom ni symud i Sir Benfro, lle sydd yn golygu cymaint i mi!” Fran

Roedd Fran yn ofnadwy o drefnus wrth baratoi i symud i Gymru. Roedd wedi cychwyn dysgu Cymraeg yn Nottingham drwy ddilyn gwersi Zoom drwy’r cynllun ‘Clwb Cwtsh’. Mae’r gwersi yma wedi cael eu hysgrifennu gan ein Cyflwynydd Nia Parry! Bwriad y gwersi yma yw cyflwyno’r iaith i rieni fel y gallent ddysgu ar y cyd a’u plant. Roedd Fran hefyd wedi bod yn rhan o’r gwersi gyda’i phlant Alys, sy’n 6 oed a Dylan sy’n dair.

“Roedd y cynllun Clwb Cwtsh wedi gwneud y broses o symud mewn i addysg Gymraeg lot haws gan fod y plant yn gyfarwydd gyda’r iaith yn barod. Wnes i ddechrau dysgu ar y cyd efo’r plant ar Zoom cyn symud yma, ac ar ôl symud yma roedd y cyfan yn haws, yn fwy naturiol ac roedden ni gyd yn fwy hyderus o ran yr iaith” Fran

Mae plant Sarah yn dair a hanner ac un flwydd oed. Mae Ioan wedi mynychu’r Cylch ac mi fydd Arianwen yn dilyn yr un llwybr.

“Roedd yna gymaint o adnoddau gwych a defnyddiol ar-lein i’n helpu ni fel rhieni ac i helpu’r plant. Roedd Clwb Cwtsh yn berffaith inni wneud yn ystod y cyfnod clo ac roedden ni i gyd yn dechrau ar yr un lefel. Roedd yn gyflwyniad neis i’r iaith heb orfod poeni am orfod gadael y tŷ”. Sarah

Er bod popeth yn swnio fel ei fod wedi dod yn hawdd, roedd Nia yn awyddus i wybod os oedd unrhyw beth wedi bod yn anodd iddynt.

“Ar y cychwyn, roeddwn yn poeni na fyswn i’n gallu helpu hefo gwaith cartref. Roedd yr ysgol yn wych! Cefais sgwrs rithiol gyda’r pennaeth i ofyn fy nghwestiynau – doedd dim cwestiwn rhy wyrion! Mae’r gwaith cartref yn cael ei yrru adra yn Saesneg i ni hefyd. Mae’r buddion werth cymryd y cam mawr o roi addysg Gymraeg iddynt.” Sarah

Holodd Nia beth iddynt yn feddwl oedd y buddion hir dymor i’r plant wrth ddysgu iaith newydd.

Roeddwn eisiau’r plant setlo yma yn sydyn. Mae dysgu Cymraeg yn helpu yn sicr ac mae’r buddion ar yr ymennydd yn sefyll allan. Mae’n mynd i fod yn llawer haws iddynt ddysgu iaith arall yn y dyfodol hefyd”. Fran

Mae’r ddwy yn bwriadu parhau gyda’r addysg Gymraeg i’w plant, ond mae’r ddwy’n cydnabod bydd hi’n dipyn o dasg i gadw fyny efo lefel y plant!

“Ar y funud, dwi’n trio cadw ar yr un lefel ac Ioan. Mewn amser, pan mae’r plant ychydig yn hyn, dwi’n bwriadu mynychu gwersi. Un peth dwi wedi dysgu ydi fod plant yn wydn ac yn addasu yn gyflym. Ni fel rhieni sy’n dueddol o gor-boeni am bopeth.” Sarah

Gallwch wrando ar y sgwrs yn llawn yma a chofiwch rannu gyda theuluoedd eraill sy’n ceisio penderfynu ar y llwybr cywir ar gyfer addysg eu plant ar hyn o bryd: www.podfollow.com/babysteps.