Yn ein cyfres podlediadau Saesneg #BabyStepsIntoWelsh mae’r gyflwynwraig hoffus Nia Parry wedi bod yn sgwrsio gyda theuluoedd am eu profiadau, gofidiau a chwestiynau am Addysg Gymraeg. Gallwch wrando a dilyn y gyfres yma: www.podfollow.com/babysteps
Yn y bennod gyntaf, bu Nia yn sgwrsio gyda Sean Fletcher, cyflwynydd rhaglenni poblogaidd fel Good Morning Britain a Coast & Country, a’i wraig Luned Tonderai sy’n gyfarwyddwr ar gyfresi llwyddiannus fel Gogglebox.
“Roedd cyflwyno’r Gymraeg i’n plant yn anrheg ac yn ‘no brainer’ i ni. O’n i’n gweld hi’n bwysig iawn i fi ddysgu’r iaith ochr yn ochr â nhw, er mwyn gallu helpu nhw,” medd Sean Fletcher.
Mae diwylliant, hunaniaeth a’r syniad o berthyn, yn bwysig iawn i Sean Fletcher. Yn ystod ei sgwrs gyda Nia, cawsom glywed sut wnaeth addo i’w dad-yng-nghyfraith, ar ddiwrnod ei briodas, ei fod am ddysgu Cymraeg. Doedd dim troi nôl wedyn! Mae Sean bellach yn rhugl yn y Gymraeg ac roedd ein cyflwynydd Nia Parry yn rhan o’r daith honno!
“Mae’r Cylch Meithrin yn rhan hanfodol o addysg Gymraeg,” medd Sean Fletcher.
Clywn pam bod Sean a Luned yn ‘ffans’ mawr o’r Cylch Meithrin a’u bod yn teimlo fod dechrau yno yn hanfodol i’r plant a’r teuluoedd. Mae cefnogaeth y Cylchoedd Meithrin i deuluoedd di-Gymraeg a dwyieithog yn amhrisiadwy yn eu barn nhw, ac maen nhw’n rhannu pam eu bod nhw’n annog teuluoedd d-Gymraeg i roi cynnig arni.
“Cefais fy magu yng Nghymru ar aelwyd Gymraeg. Mae’r iaith yn rhan o dreftadaeth y plant, ac mae’n caniatáu iddynt fod yn agosach i fy nheulu. Mae’r cysylltiad â’r berthynas yna mor bwysig.” medd Luned Tonderai.
Wedi bod i’r Cylch Meithrin ac wedi dechrau’r ysgol yng Nghymru, symudodd Sean a Luned i Lundain pan roedd eu plant Reuben a Lilly yn fach. Clywn am y croeso gafodd y teulu yn Ysgol Gymraeg Llundain, a sut mae’r teuluoedd Cymreig yno mor angerddol dros addysg Gymraeg – efallai yn fwy angerddol nag yma yng Nghymru?!
“Os ydech chi’n ddi-Gymraeg, ewch i sgwrsio gyda theuluoedd tebyg sydd wedi dewis addysg Gymraeg a chewch weld bod dim byd i fod yn bryderus amdano. Mae rhoi’r Gymraeg i’ch plant yn anrheg arbennig iawn,” yw cyngor Luned Tonderai.
Wrth sgwrsio gyda Nia, daw yn amlwg iawn bod Sean a Luned yn falch iawn bod eu plant yn ddwyieithog, ac maen nhw’n ymfalchïo yn y ffaith bod y plant yn parhau i gyfathrebu a defnyddio’r iaith yng Nghymru a Llundain heddiw. Clywn hefyd sut mae dysgu Cymraeg wedi agor drysau i Sean yn ei yrfa fel cyflwynydd teledu, a’i gyngor gwych i rieni eraill sy’n ystyried dysgu’r iaith gyda’r plant.
Gallwch wrando ar y sgwrs yn llawn yma a chofiwch rannu gyda theuluoedd eraill sy’n ceisio penderfynu ar y llwybr cywir ar gyfer addysg eu plant ar hyn o bryd: www.podfollow.com/babysteps