Pennod 3 – Cyflwyniad i’r Llwybr Datblygu Cyfathrebu gyda Kayleigh Bickford o Gylch Meithrin Beddau.
Dyma’r drydedd bennod yn ein cyfres podlediadau ‘Camau Bach i’r Cwricwlwm’. Cyfres o bodlediadau sy’n gyfle i ddysgu mwy am beth mae’r Cwricwlwm newydd yn ei olygu i blant, staff a theuluoedd y Mudiad.
Kayleigh Bickford, Rheolwr Cylch Meithrin Beddau ger Pontypridd oedd gwestai Nia Parry y tro hwn, un sydd wedi’i magu yn Beddau ac sy’n frwdfrydig i hybu’r Gymraeg yn yr ardal. Bu Kayleigh yn un o aelodau staff y Mudiad oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r Cwricwlwm newydd;
“Roedd yn brofiad lyfli a dwi’n falch bo fi wedi bod yn rhan o’r broses. Mae’r plant wrth wraidd popeth yn y Cwricwlwm newydd, mae e i gyd amdanyn nhw. Mae bob plentyn yn datblygu yn ei amser ei hun ac yn ei ffordd ei hun, ac mae’r Cwricwlwm yma’n dathlu’r plentyn am pwy ydi o ac yn ei hybu yn ôl beth mae o’i angen. Mae’n gynhwysol ac yn creu ymdeimlad cryf o berthyn i’r Cylch a’r gymuned ehangach.”
Yn ystod y bennod hon bu Kayleigh’n trafod y Llwybr Datblygu Cyfathrebu, sy’n un o’r pump Llwybr Datblygu yn y Cwricwlwm newydd.
“Mae cyfathrebu mor bwysig, ac yn llawer mwy na dim ond siarad. Mae canu’n rhywbeth ryden ni wedi defnyddio mewn cylchoedd ers talwm, ond nawr ni’n defnyddio teils trafod, Makaton – sy’n defnyddio lot o symbolau a hefyd technoleg. Gyda ni, mae’r plant yn gallu gwneud Facetime efo rhieni os yden nhw angen cyfathrebu tra bod nhw yn y Cylch.”
Cawn ddysgu sut mae’r Cwricwlwm yn gefnogol iawn i’r plant sydd ddim wedi dechrau cyfathrebu ar lafar. Bu Kayleigh’n trafod sut mae actio a defnyddio props wrth adrodd straeon wedi hybu sawl plentyn yn ei Chylch hi;
“Yn aml iawn, ar ôl y stori ni’n gweld y plant yn chwarae gyda’r props ac yn dechrau dweud y geiriau neu’r synnau roedden ni’n wneud wrth berfformio’r stori. Mae’n gyffrous!”
Mae cyfathrebu gyda’r rhieni hefyd yn holl bwysig fel rhan o waith y Cylch;
“Dwi’n Whatsappio lluniau o’r plant i’r rhieni er mwyn dathlu datblygiad y plentyn ac mae hynny’n helpu iddyn nhw fod yn rhan o’r siwrne, ac mae’n lot o help os oedd plentyn yn crio yn y bore. Ryden ni hefyd yn siarad lot gyda’r rheini er mwyn dysgu am fywyd y plentyn adref ac i sicrhau bo ni’n ymateb i sefyllfaoedd sy’n codi tu hwnt i fywyd y plentyn yn y Cylch”.
Mae Kayleigh eisoes wedi gweld datblygiadau cadarnhaol yn sgiliau cyfathrebu’r plant;
“Wrth inni gamu nôl, dilyn llais y plant ac arsylwi mwy, ni’n rhoi mwy o amser a chefnogaeth iddyn nhw i gyfathrebu pan mae nhw’n barod. Yn ein Cylch ni, mae rhai plant oedd ddim ond yn siarad gyda’u rhieni, bellach wedi dechrau siarad yn y Cylch. Mae’n profi pa mor dda yw e!”
I’r rhieni sy’n poeni am y Cwricwlwm newydd, cyngor Kayleigh yw:
“Peidiwch poeni! Mae’r newid yma am y gore. Mae popeth yn gael ei gynllunio a’i ddarparu yn ôl anghenion a diddordebau y plant sydd gyda ni bob dydd. Mae’n gret!”
Mae Camau Bach i’r Cwricwlwm yn gynhyrchiad gan Bengo Media a Llais Cymru ar gyfer Mudiad Meithrin. I wrando ar y bennod hon a gweddill y gyfres, ewch i www.podfollow.com/babystepsintowelsh