Pennod 4 – Cyflwyniad i’r Llwybr Datblygu Archwilio gyda Jacqueline Hooban o Gylch Meithrin Llanbedr ger Harlech.
Dyma’r pedwerydd bennod yn ein cyfres podlediadau ‘Camau Bach i’r Cwricwlwm’. Cyfres o bodlediadau sy’n gyfle i ddysgu mwy am beth mae’r Cwricwlwm newydd yn ei olygu i blant, staff a theuluoedd Mudiad Meithrin.
Mae Jacqueline Hooban yn Arweinydd ar Gylch Meithrin Llanbedr ger Harlech ers blwyddyn bellach. Mae’n dod o Lerpwl yn wreiddiol, ond wedi dysgu Cymraeg pan symudodd ei theulu i’r ardal pan roedd hi’n 8 oed. Nid oedd hi’n hawdd iddi ddysgu Cymraeg, ond mae’n falch iawn o’r sgil erbyn hyn, ac yn mwynhau hybu’r iaith ymhlith plant a theuluoedd y Cylch.
Roedd teulu Mam Jacqueline yn hannu o Nigeria, ac mae’n frwdfrydig iawn i sicrhau bod plant Cylch Meithrin Llanbedr yn cael cyfle i fwynhau pob diwylliant, yn arbennig trwy’r Llwybr Dysgu – Archwilio
“I fi, mae’r Llwybr Dysgu Archwilio yn rhan mor bwysig o’r Cwricwlwm newydd. Ryden ni fel Cylchoedd yn ceisio bod mor gynhwysol â phosibl, ac yma, ryden ni wedi cyflwyno nifer o elfennau newydd er mwyn ehangu’r profiad o Archwilio. Mae sarris yn yr ardal gwisgo fyny, mae doliau du yn y bocsys tegannau a llyfrau sy’n cynnig amrywiaeth o ddiwylliannau a lliwiau croen. Mae’n hollbwysig i’r plant archwilio diwylliannau gwahanol er mwyn gwaredu stigma o oed ifanc iawn.”
Yn ystod y sgwrs gyda Nia, bu Jacqueline yn trafod sut mae’r Llwybr Dysgu Archwilio yn canolbwyntio ar ddilyn y plentyn, gan adael iddynt gael y rhyddid i archwilio a datblygu ar ei lefel a’i cyflymder ei hun. Cawn hefyd glywed sut mae’r Mudiad yn rhoi pwylsias ar archwilio yn yr awyr agored;
“Mae rhoi cyfle i’r plant archwilio a datblygu yn yr awyr agored yn bwysig inni. Ryden ni’n gwneud y mwyaf o’r ardal wledig yma yn Llanbedr, yn rhoi’r cyfle i’r plant gael digon o amser ym myd natur a hynny ymhob tywydd! Maen nhw’n canu i’r adar yn y coed, yn casglu brigau, cerrig, moch coed ac unrhywbeth arall sydd wedi tynnu eu sylw nhw – nhw sy’n arwain ac mae nhw wrth eu bodd y tu allan! Mae’n rhyfeddol sut mae nhw’n defnyddio’r pethe mae nhw’n casglu tu allan i greu straeon, sŵn a hyd yn oed stampio moch coed mewn clai a thywod, mae’n nhw’n cael lot o hwyl!”
Cawn glywed sut mae’r Cwricwlwm yn rhoi’r rhyddid i’r plant archwilio gyda phob un o’r synhwyrau. Mae plant Llanbedr wrth eu bodd yn arbrofi gyda’r goleuadau sy’n dod o’r bêl ddisgo, ac mae na hwyl di-ri i’w gael efo’r tywod!
“Mae’r plant yn caru’r ardal tywod! Mae nhw’n creu pob math o gemau a golygfeydd efo’r tywod. Un munud mae o yn y ‘suitcase’, wedyn mae nhw’n arlunio neu’n rhoi glitter ynddo a’r funud nesaf mae o yn y gegin ac mae nhw’n creu paned tywod! Mae’n mynd i bobman, ond sdim ots achos mae’r plant wrth eu bodd ac yn datblygu pob math o sgiliau.”
Yn Fam i 4 o blant, mae Jacqueline yn amlwg wedi gwirioni efo’r Cwricwlwm newydd;
“Mae’n grêt, mae o i gyd am y plant rwan. Mae nhw’n cael hyd yn oed fwy o ryddid ac yn datblygu’n gynt. Mae nhw’n hapus iawn, a ’dan ni hefyd, does dim byd i boeni amdano.”
Mae Camau Bach i’r Cwricwlwm yn gynhyrchiad gan Bengo Media a Llais Cymru ar gyfer y Mudiad Meithrin. I wrando ar y bennod hon a gweddill y gyfres, ewch i www.podfollow.com/babysteps