Pennod 5 – Cyflwyniad i’r Llwybr Datblygu Perthyn gyda Hannah Rowley o Gylch Meithrin Nant Dyrys.

 

Dyma’r bumed bennod yn ein cyfres podlediadau ‘Camau Bach i’r Cwricwlwm’ gan y Mudiad. Cyfres o bodlediadau sy’n gyfle i ddysgu mwy am beth mae’r Cwricwlwm newydd yn ei olygu i blant, staff a theuluoedd Mudiad Meithrin.

Hannah Rowley, Dirprwy Arweinydd Cylch Meithrin Nant Dyrys yng Nghwm Rhondda fu’n sgwrsio gyda’r gyflwynwraig Nia Parry yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar y Llwybr Dysgu – Perthyn.

Mae Hannah’n amlwg wrth ei bodd gyda’i swydd yn y Cylch Meithrin ac yn cyfaddef ei bod hi a gweddill y Bopas (Antis) yn y cylch yn meddwl y byd o’r plant “Ni’n caru nhw, ac yn parchu nhw fel ein plant ein hunain.”

Wedi cael plant ei hun yn 21 mlwydd oed, dychwelodd Hannah i fyd addysg yn 24 oed ac wedi cyfnod yn gwirfoddoli yn y Cylch Meithrin a chael gradd BA mewn Astudiaethau Plentyndod, mae’n dweud bod swydd barhaol yn y Cylch yn freuddwyd ganddi, gyda datblygiad y Cwricwlwm newydd fel eisin ar y gacen!

“Mae’r Cwricwlwm newydd yn rhoi’r plant wrth galon popeth, gan hybu lles ac yn rhoi’r rhyddid inni greu profiadau dysgu arbennig ar gyfer plant y Cylch Meithrin. Mae’n grêt!”

Mae Hannah’n credu’n gryf bod y Llwybr Dysgu Perthyn yn hollbwysig i’r Cwricwlwm newydd;

“I fi, mae ‘perthyn’ am yr ymdeimlad o gariad, teimlo’n saff a theimlo fel bod chi’n cael eich gwerthfawrogi. Mae hwn mor bwysig i blant bach. Os nad yden nhw’n teimlo’u bod nhw’n perthyn, dydyn nhw’n methu setlo, methu mwynhau a datblygu ac yn methu dangos beth mae nhw’n gallu gwneud.”

Cawn glywed am nifer o ffyrdd mae’r Cylch wedi ymateb i’r Llwybr Dysgu – Perthyn; e.e caniatau i blant hunan gofrestru gan ddefnyddio pegiau mae nhw’n addurno adref – gan greu perthynas rhwng y cartref a’r Cylch. Cawn glywed hefyd am rôl bwysig cymeriadau Dewin a Doti y Mudiad wrth helpu ambell un i setlo yn y dyddiau cynnar:

“Mae gadael adref a’r teulu yn beth mawr i blant. Roedd un bachgen wedi bod yn anhapus a thrist iawn am y mis cyntaf, ond wedi iddo ddarganfod pyped Dewin a chael sgwrs gyda’r pyped, dechreuodd wenu ac ymlacio. Dros nos, roedd yn teimlo’r ymdeimlad yna o berthyn i’r cylch. Mae pob plentyn yn wahanol a dyma sy’n wych am roi plant yng nghanol y Cwricwlwm newydd.”

Bu Nia’n holi am sut mae Mudiad Meithrin a’r Cwricwlwm newydd yn rhoi pwyslais ar y berthynas gyda’r ardal leol;

“Mae teimlo eich bod chi’n perthyn i’r ardal a chyfle i gwrdd pobl leol yn bwysig. Ryden ni’n mynd am dro i’r salon gwallt a’r feddygfa leol yn rheolaidd ac mae’r plant yn magu perthynas gyda’r staff, gyda’r ardal ac yn datblygu pob math o sgiliau newydd.”

Fel Mam, roedd gan Nia ddiddordeb i holi Hannah am sut roedd y Mudiad yn sicrhau’r berthynas rhwng y rhieni a’r Cylchoedd Meithrin;

“Mae’r Bopas (Antis) yn estyn croeso i rieni ddod mewn yn gyson i sgwrsio ac i weld y gofod. Ry’n ni’n cael diwrnodau agored ac yn sicrhau cysylltiad cyson gyda’r rhieni. Mae nhw’n dweud eu bod nhw’n teimlo’n rhan o’r siwrne gyda’u plant, ac yn teimlo’n rhan o’r cylch.”

Does dim dwywaith bod Hannah’n angerddol am y Cwricwlwm newydd. Mae’n credu y bydd y berthynas gyda’r staff a’r Mudiad yn parhau am flynyddoedd lawer, a hynny’n profi bod ymdeimlad cryf o berthyn yn y cylchoedd;

“Flynyddoedd ar ôl gadael y cylch, mae’r plant a’r rhieni yn parhau i redeg aton ni ar y stryd, yn parhau i’n galw ni’n Bopas (Antis), ac mae hynny’n arbennig. Mae’n profi bod y cariad a’r gofal mae nhw’n cael gyda ni yn aros gyda nhw, yn rhan bwysig a hapus o’u siwrne personol nhw. Mae’n berthynas sbesial.”

 

Mae Camau Bach i’r Cwricwlwm yn gynhyrchiad gan Bengo Media a Llais Cymru ar gyfer y Mudiad Meithrin. I wrando ar y bennod hon a gweddill y gyfres, ewch i www.podfollow.com/babysteps

Hannah Rowley