Mae Donna Puw o’r Parc ger Bala wedi ennill gwobr arbennig Prentisiaethau Mudiad Meithrin sy’n cynnig hyfforddiant cydnabyddedig wedi’i achredu i bobl sy’n gweithio mewn sefydliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar  megis Cylchoedd Meithrin a dosbarthiadau meithrin ledled Cymru.

Mae Donna wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn am ei gwaith yng Nghylch Meithrin Garn Bach Tryweryn.

Wrth ddyfarnu’r wobr iddi, meddai Rheolwr Cynllun Hyfforddi Mudiad Meithrin, Eunice Jones:

“Mae hi mor braf gallu gwobrwyo a dathlu gwaith caled unigolion fel Donna. Bydd ei phrofiad a’i hymdrech yn ysbrydoliaeth i eraill gobeithio”.

 

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma –

Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam – Mudiad Meithrin

Dysgwr y Flwyddyn, Cynllun Prentisiaeth – Donna Puw

Donna Puw