Mae Emily Ellis sy’n ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd wedi ennill gwobr arbennig Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam sy’n cynnig hyfforddiant cydnabyddedig wedi’i achredu i bobl sydd am weithio mewn sefydliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar gan drefnu lleoliadau gwaith i ymgeiswyr mewn Cylchoedd Meithrin, dosbarthiadau meithrin a meithrinfeydd ledled Cymru.

Mae Emily Ellis o Drefnant wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn am ei gwaith yng Nghylch Meithrin Bodawen, Dinbych.

Wrth ddyfarnu’r wobr iddi, meddai Dirprwy Rheolwr Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam, Emma Jones:

“Mae hi mor braf gallu gwobrwyo a dathlu gwaith caled unigolion fel Emily. Bydd ei phrofiad a’i hymdrech yn ysbrydoliaeth i eraill gobeithio”.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma –

Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam – Mudiad Meithrin

Dysgwr y Flwyddyn – Emily Ellis

Emily Ellis