Cais Grant llwyddiannus i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn creu Cyfleon Newydd
Ry’n ni’n dathlu fod ein cais am grant i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am bron i £497,000 wedi bod yn llwyddiannus i wireddu prosiect cwbl newydd i gefnogi eu gwaith am gyfnod o 3 blynedd.
Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:
“Ry’n i wrth ein boddau ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a fydd yn ein galluogi i benodi tair swydd newydd i wireddu prosiect arbennig i ddatblygu cynnwys ar gyfer sefydlu sianel YouTube Cymraeg newydd i deuluoedd. Y nod yw adeiladu ar boblogrwydd cymeriadau unigryw Mudiad Meithrin, Dewin a Doti, i ddatblygu platfform agored, diogel a difyr o gynnwys addysgiadol, amrywiol a hwyliog.”
Bydd y prosiect yn digwydd dros gyfnod o dair blynedd, a’r bwriad yw cydweithio gyda staff, teuluoedd a chymunedau i gyd-gynhyrchu cynnwys i gyflwyno amrywiaeth o fideos addysgiadol a straeon difyr yn seiliedig ar weithgareddau hwyliog i blant i annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Rydym wrth ein boddau bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gwaith fel hyn. Nawr, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol byddwn yn gallu bwrw mlaen gyda’r cynllun trwy hysbysebu tair swydd newydd i wireddu’r prosiect. Mae derbyn yr arian yma yn mynd i wneud cymaint o wahaniaeth i’n gwaith i gyflwyno’r Gymraeg i blant a theuluoedd, yn enwedig i deuluoedd nad oes ganddynt fodd i fynychu ein darpariaethau ar hyn o bryd am amryfal resymau. Bydd y grant yn ein galluogi i ddatblygu llyfrgell o ffilmiau addysgiadol amrywiol yn seiliedig ar weithgareddau grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, a Chylchoedd Meithrin i annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant. I wireddu’r prosiect yn llwyddiannus mi fydd cydweithredu â phartneriaid cymunedol amrywiol yn allweddol i gyrraedd y nod a byddwn yn annog cyfraniadau gan unigolion a sefydliadau eraill ledled Cymru.”
Mae’r tair swydd newydd yn cael eu hysbysebu yma –