Gan Menna Machreth, Prif Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

 

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd adroddiad gan yr Athro Charlotte Williams a oedd yn rhoi argymhellion am y ffordd ymlaen i ddysgu disgyblion Cymru am hiliaeth, gwrth-hiliaeth ynghyd â chynnwys profiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y cwricwlwm. Mae’r adroddiad yn rhan o waith ehangach sydd wedi ei sbarduno gan ymgyrch #MaeBywydauDuOBwys a’r anghyfartaledd amlygwyd gan bandemig Covid-19. Mae’r Llywodraeth hefyd ar hyn o bryd yn ymgynghori ynghylch Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol er mwyn mynd i’r afael a’r rhwystrau sy’n wynebu pobl o liw a’r diffyg cynrychiolaeth o amrywiaeth hiliau mewn sefydliadau a thu hwnt.

Mae Mudiad Meithrin hefyd wedi mynd ati i edrych ar ein hunain a rhoi newidiadau ar waith; e.e. adolygu Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, cynnal prosiect i ddeall mwy am brofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o ofal ac addysg Gymraeg, cynnig prentisiaethau cyflogedig wedi eu hannelu i wella cynrychiolaeth o fewn ein gweithlu.

Beth sydd gan yr adroddiad yma i’w gynnig i leoliadau gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar felly?

Nid oes sôn penodol am y sector nas cynhelir yn yr adroddiad, fodd bynnag, mae’r egwyddorion a bwysleisir yn yr adroddiad yn bwysig i bawb sy’n ymwneud ag addysg yng Ngymru ac yn sicr yn berthnasol i leoliadau nas cynhelir fel Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd dydd hefyd.

Adnoddau

Mae’r adroddiad yn cydnabod fod yr Adnoddau dysgu sy’n ymwneud â phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn brin ac yn tueddu i ganolbwyntio ar hanes caethwasiaeth (er mor bwysig yw dysgu am hynny). Mae angen adlewyrchu profiadau cadarnhaol hefyd a dangos bod hanes pobl o liw yn ran o hanes ein cenedl a’n cymunedau. Tu hwnt i hyn, mae angen dangos a dathlu amrywiaeth Cymru ar draws pob thema ac mae’r Cwricwlwm newydd yn annog hyn. Mae’r Cwricwlwm yn rhoi rhyddid i athrawon ac ysgolion benderfynu ar eu cwricwlwm eu hunain (a dyna fydd yn digwydd mewn lleoliadau nas cynhelir) felly mae’r adroddiad yn mynegi peth pryder y gallai rhai addysgwyr hepgor neu drin amrywiaeth fel rhywbeth ‘ychwanegol’ yn hytrach na thema sy’n rhedeg drwy bob agwedd o’r dysgu.

Yn sicr, mae’n werth gofyn i’n hunain a’n gilydd, ac annog trafodaeth ynghylch sut rydyn ni’n dangos a defnyddio amrywiaeth yn ein lleoliad ni i gyfoethogi profiadau’r plant?

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Mudiad Meithrin ddau adnodd newydd – Dewch i Ddathlu sy’n cyflwyno rhai o ddathliadau crefyddau’r byd i’r blynyddoedd cynnar a Nodau Natur sy’n cyfuno dysgu am amrywiaeth a cherddoriaeth a llawer mwy. Ar y gweill hefyd mae cynllun i gyflwyno hanes bobl Ddu yng Nghymru i oed y blynyddoedd cynnar.

Hyfforddiant a datblygiad gweithlu

Mae’r adroddiad yn feirniadol o’r diffyg cyfleoedd sydd i addysgwyr ddatblygu eu hyder a’u gallu i drafod amrywiaeth fel rhan o’u pwnc. Hefyd, mae sylw’n cael ei roi i’r tuedd i ddysgu y pethau sydd fwyaf ‘perthnasol’ i’r gymuned maen nhw’n dysgu ynddi; e.e. os nad oes llawer o blant o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn yr ysgol neu’r gymuned ehangach, mae dysgu am brofiadau’r cymunedau yma ac amrywiaeth yn gyffredinol yn llai pwysig neu’n llai o flaenoriaeth i’r ysgol honno.

Mae’n bwysig gofyn i’n hunain, os ydyn ni mewn ardal ble mae’r mwyafrif o bobl yn wyn, ydyn ni’n rhoi digon o bwyslais ar amrywiaeth? Mae’n hynod bwysig fod plant mewn ardaloedd lle ceir poblogaeth ethnig lleiafrifol isel yn dysgu am amrywiaeth hil ac ethnigrwydd a chyfartaledd.

Bydd angen i Mudiad Meithrin a hyfforddwyr gweithlu gofal plant eraill ystyried sut gellir sicrhau fod materion yn ymwneud ag amrywiaeth yn rhan o ddatblygiad parhaus y gweithlu yn ogystal a sut gallwn gynyddu’r nifer o ymarferwyr gofal plant Cymraeg sy’n Ddu, Asiaidd neu’n Ethnig Leiafrifol.

‘Dull lleoliad gyfan’

Mae’r adroddiad yn annog lleoliadau addysg i edrych sut allan nhw sicrhau fod amrywiaeth yn thema sy’n rhedeg drwy’r lleoliad i gyd, a sut fydd hynny’n effeithio awyrgylch, lles a phrofiad plant a theuluoedd o’r lleoliad. Dylai ysgolion edrych ar eu hunain a’u cynlluniau datblygu fel ysgol gyfan ac ystyried a yw’r cynlluniau’n hybu amrywiaeth a chynhwysiant drwyddi draw. Mae’n golygu mynd tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol, a meddwl a yw eu arfer yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng hiliau.

Cyn bo hir, fe fydd Mudiad Meithrin yn lansio hyfforddiant i Gylchoedd ynghylch gwneud y Cylch yn gynhwysol i bawb. Fe fydd ‘Cylch i Bawb’ yn rhannu gwybodaeth am arferion da ac yn sbarduno ymarferwyr i feddwl am gynhwysiant drwy’r lleoliad cyfan. Gellir gwneud yr hyfforddiant mewn cyfarfod staff / cyfarfod pwyllgor yn y lleoliad neu ar-lein.

Ymgysylltu a chynaliadwyedd

Un o syniadau craidd y cwricwlwm newydd yw’r syniad o ‘gynefin’, gyda’r nod o gael disgyblion i ddeall a dehongli eu cymuned a’u bro. Ond mae’r adroddiad yma’n rhybuddio y gallai hynny fod yn gyfyng mewn ardaloedd lle nad fydd hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael ei ystyried yn rhan o hanes y gymuned. Dywed yr adroddiad fod y cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle i gydweithio a mudiadau neu ysgolion eraill mewn ffordd arloesol yn ogystal a rhoi sylw i wrth-hiliaeth.

Mae Mudiad Meithrin yn cydweithio a Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil y Gogledd ar adnodd sy’n cyflwyno gwrth-hiliaeth i blant bach (mae gwrth-hiliaeth yn golygu bod yn effro ac yn barod i weithio yn erbyn hiliaeth), a fydd yn gyfle hefyd i ystyried sut rydyn ni’n trafod hil gyda phlant bach.

Yn sicr, mae’r Adroddiad yr Athro Charlotte Williams yn cynnig drych amserol i’r sefyllfa ar hyn o bryd, a’r gwaith sydd ganddon ni gyd i wneud drwy’r holl ddarpariaethau addysg i roi llais a llwyfan i amrywiaeth o brofiadau pobl Cymru. Er mai ysgolion yw prif ffocws yr adroddiad yng nghyd-destun posibiliadau’r cwricwlwm newydd, mae lle i ni fel Mudiad Meithrin, ymarferwyr a gwirfoddolwyr i ddilyn arweiniad yr adroddiad a rhoi arferion da a dangos arloesedd yn ein lleoliadau. Mae plant bach yn dysgu cymaint am y byd o’u cwmpas yn y blynyddoedd cynnar ac yn dechrau dehongli’r byd o’u cwmpas yn gynnar iawn, a’n braint yw chwarae rhan wrth iddynt ddarganfod amrywiaeth eu cymuned, eu cenedl a’u byd.