Mae Mudiad Meithrin yn croesawu canfyddiadau yr adroddiad addysg ar gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gan yr Athro Charlotte Williams OBE, yn y Cwricwlwm Newydd i ysgolion a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf. Mae cynhwysiant yn rhan greiddiol o’n gwaith ni ac ymdrechwn i gynrychioli pob plentyn sydd yn ein Cylchoedd Meithrin trwy gyhoeddi mwy o adnoddau cynhwysol. Yr enghraifft mwyaf ddiweddar yw cyhoeddi ein prosiect hwiangerddi Nodau Natur, yr wythnos hon sy’n cynnwys cyfuniad o hwiangerddi Cymraeg a chaneuon syml yn ieithoedd Arabeg, Wrdw, Romaneg, Pwyleg a Bangla.
Mae Cylchoedd Meithrin y Mudiad wedi cyflwyno hwiangerddi a rhigymau Cymraeg i’r plant yn eu gofal ers dros hanner can mlynedd a bwriad y prosiect Nodau Natur yw cyflwyno cyfuniad o hwiangerddi Cymraeg a hwiangerddi o ieithoedd eraill sydd wedi eu clymu i ddiwylliannau a thraddodiadau amrywiol sydd wedi gwreiddio yng Nghymru ers canrif a mwy. Mae traw cenedlaethol i’r prosiect gan fod y Mudiad wedi gweithio gyda’r cerddorion talentog Siân James, Gwyneth Glyn a’r grŵp gwerin Bragod i greu adnodd cerddorol cyfoes sy’n cyfuno hwiangerddi Cymraeg a chaneuon syml yn ieithoedd Arabeg, Wrdw, Romaneg, Pwyleg a Bangla.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Nod y prosiect Nodau Natur yw hybu ymwybyddiaeth o amrywiaeth treftadaeth Gymreig a Chymraeg gan ddathlu cymunedau a diwylliannau sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac i ysbrydoli rhagor o bobl i edrych yn fanylach ar dreftadaeth eu milltir sgwâr. Bydd hyn yn annog y plant i ganolbwyntio ar dreftadaeth mewn ystyr eang ac i ddathlu amrywiaeth a chyfoeth y diwylliannau a’r traddodiadau o’n cwmpas gan feithrin deialog ynglŷn â beth yw perthyn, hunaniaeth a hefyd gydnabod yr iaith Gymraeg fel arf pwerus i greu cymunedau cydlynol.”

Meddai Siân James – cantores sy’n arbenigo ar ganu gwerin Cymru:
“Dyma un o’r prosiectau hyfrytaf a mwyaf ysbrydoledig i mi ymwneud â hi ers tro byd. Diolch o waelod calon am y fath fraint ac edrychaf ymlaen yn eiddgar i glywed y plant bach yn cydganu’r rhigymau bach bendigedig yma.”
Mae’r pecyn addysgu yn cynnwys 9 o ganeuon, geiriau’r gân, stori syml yn egluro beth yw tarddiad a chwmpawd pob hwiangerdd/cân gyda gweithgaredd crefft i gyfoethogi pob hwiangerdd, gyda’r bwriad o hybu datblygu ethos amlddiwylliant o oed cynnar, fel bod ein plant yn gallu mwynhau a dod i werthfawrogi diwylliannau a ieithoedd eraill.

Fe gomisiynwyd Nia Beynon, Ymgynghorydd a Hyfforddwraig y Blynyddoedd Cynnar, i ymgymryd â’r gwaith. Meddai Nia:
“Pan gefais fy nghomisiynu i lunio adnodd i blant ifancaf Cymru ei ddefnyddio, doeddwn i heb ystyried i ba raddau y byddwn yn cael mynd ar daith rhithiol mor gyfoethog o gwmpas diwylliannau cenhedloedd eraill sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru. Roedd y gwaith o gasglu’r rhigymau yn golygu fy mod wedi cydweithio gydag amryw gymunedau megis Indiaidd, Arabeg, Romanaidd a Phwyleg yn ogystal a’n cymuned traddodiadol Gymraeg. Mae gweithio ar y casgliad o rigymau wedi ehangu fy ngorwelion i fy hun ac rwy’n mawr obeithio y bydd plant bach Cymru yn elwa gymaint o’u canu ac y gwnes i wrth eu casglu!”
Meddai’r gantores Gwyneth Glyn:
“Mae canu rhigymau yn gyflwyniad gwych i unrhyw iaith – boed hynny i’n hiaith ni ein hunain, neu i ieithoedd ein ffrindiau. Dwi wedi cael modd i fyw yn canu mewn ieithoedd hollol newydd i mi.”