Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+ – Caron Fon, Mudiad Meithrin
Mae gan bob plentyn hawl i fyw mewn byd heb ragfarn; byd gwirioneddol gynhwysol sy’n eu croesawu ac mae Mudiad Meithrin a’n lleoliadau, yn croesawu plant o deuluoedd a chefndiroedd amrywiol.
Yn ddiweddar, ‘ry’n ni wedi lansio adnodd newydd ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar, sef “Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+”
Mae’n cynnwys cyngor i staff am
- siarad â theuluoedd,
- defnyddio’r termau cywir,
- deall stereoteipiau,
- ateb cwestiynau plant,
- adnoddau i’w defnyddio yn y lleoliad,
- syniadau ar gyfer helpu plant i ddysgu am berthyn a gwahanol deuluoedd, cariad a chyfeillgarwch, a gweithgareddau ar gyfer dathlu Balchder (Pride).
Mae’r pecyn yn codi ymwybyddiaeth am yr hawliau sydd gan blant ac am y rôl bwysig sydd gan leoliadau blynyddoedd cynnar yn hyrwyddo’r hawliau hyn; ‘ry’n ni am i bob plentyn fod yn nhw eu hunain, cyrraedd eu llawn botensial a mwynhau perthnasoedd boddhaus, iach a diogel.
Mae’n cynnwys syniadau i wreiddio hawliau plant yng ngweithgareddau dydd i ddydd y lleoliad, e.e. drwy drafod gyda’r plant bwysigrwydd trin pawb yn deg a charedig, neu drafod teuluoedd gwahanol, ymdeimlad o berthyn , cariad a chyfeillgarwch. Mae hefyd yn cynnig cyngor ar ateb cwestiynau plant, ac am adnoddau fel llyfrau stori sy’n adlewyrchu hawliau plant .
Mae Mudiad Meithrin am i bob plentyn sy’n mynychu’n lleoliadau ddeall fod gan bawb hawliau drwy gydol eu hoes, beth bynnag eu cefndir, ac felly mae’r pecyn yn cynnwys gweithgareddau i ddathlu Balchder (Pride). Mae hefyd yn rhoi sylw i adnoddau, gweithgareddau a gwersi hawliau Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, a ddatblygwyd i hyrwyddo hawliau unigol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, fel
- Mae gen i hawl i gael fy amddiffyn rhag cael fy niweidio neu fy nhrin yn wael
- Mae gen i hawl i gael fy ngwrando a’m cymryd o ddifri
- Rhaid i oedolion wneud beth sydd orau i fi
‘Ry’n ni am i’r holl blant sy’n mynychu lleoliadau Mudiad Meithrin, ddatblygu empathi a thosturi, ac i feithrin cyfeillgarwch ystyrlon nawr ac yn y dyfodol. ‘Ry’n ni am iddyn nhw ddysgu bod yn garedig wrth ei gilydd, i fod yn deg ac i barchu a gwerthfawrogi ei gilydd. Mae “Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+” yn gam yn y cyfeiriad cywir tuag at wireddu’r weledigaeth hon.
Mae Cylch i Bawb: Croesawu pob teulu gyda’n pecyn LHDTC+, ar gael trwy wneud cais o
www.meithrin.cymru/adnoddau-dysgu-a-datblygu/
Dyma ddolen at fideo byr yn cyflwyno’r pecyn