Cynhaliodd Mudiad Meithrin agoriad swyddogol Cylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn, Sir Ddinbych ddydd Iau 17 o Fawrth.Cynhaliwyd diwrnod agored ar gyfer y cylch lle roedd Prif Weithredwr y Mudiad, Dr Gwenllian Lansdown Davies, yno fel siaradwr gwadd a bu i gymeriad hoffus y Mudiad, Dewin, wneud ymddangosiad hefyd. Yn ogystal, roedd arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Hugh Evans a’r Cyfarwyddwr Addysg Geraint Davies yn bresennol yn y digwyddiad.

Mae’r Cylch Meithrin ar agor rhwng 11.30yb a 3.15yp o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol ar safle Ysgol Pentrecelyn ym Mhentrecelyn.

Mae Cylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn yn rhan o gynllun ‘Sefydlu a Symud’ (SAS) Mudiad Meithrin. Yn ystod 3 mlynedd cyntaf y cynllun (2018-2021) sefydlwyd 43 Cylch Meithrin newydd (gyda Cylch Ti a Fi ynghlwm) mewn ardaloedd daearyddol o Gymru ble nad oes Cylch Meithrin yn bodoli, a mae 12 Cylch Meithrin newydd ar waith fel rhan o bedwaredd flwyddyn y cynllun.

Jemma Williams yw arweinydd newydd Cylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn. Mae’n fam i ddau o blant ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad o weithio fel cynorthwyydd dosbarth mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Jemma:

“Dwi wrth fy modd yn gweithio efo plant ac yn falch o’r cyfle i wneud hyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fy swydd newydd fel Arweinydd Cylch Meithrin Ysgol Pentrecelyn. Mae’r Cylch yn cynnig gofal drwy gyfrwng y Gymraeg i blant dros ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae awyrgylch croesawus a chyfeillgar yma ac mae’r Cylch, staff, plant, rhieni a’r gymuned i gyd yn rhan o deulu estynedig yr ysgol.  Rydym hefyd mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol ac mi fydd y Cylch yn cynnig cyfleoedd arbennig i ddysgu a mwynhau ar y cyd yn yr awyr agored.”

Mae’r cynllun Sefydlu a Symud yn deillio o ymateb Mudiad Meithrin i Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, sy’n cydnabod pwysigrwydd a dylanwad y Blynyddoedd Cynnar i greu siaradwyr Cymraeg, ac sy’n cyd-fynd â’r weledigaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r strategaeth iaith yn nodi y bydd yn cefnogi’r gwaith o ‘ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar i 40 yn fwy o grwpiau meithrin erbyn 2021 er mwyn hwyluso dilyniant i addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny er mwyn cyrraedd 150 yn

fwy o grwpiau meithrin dros y degawd nesaf.’

Mae bron i 2,000 o staff profiadol a chymwys yn gweithio mewn Cylchoedd Meithrin yng Nghymru.

Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Ein huchelgais yw galluogi pob plentyn yng Nghymru i allu manteisio ar wasanaeth gofal plant ac addysg gynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cryn nifer o fylchau daearyddol ar hyd a lled Cymru felly mae gweledigaeth Cymraeg 2050 yn galluogi’r Mudiad, ar y cyd â chymunedau ar lawr gwlad, i weithio tuag at y nod o ddiwallu’r angen a chreu’r galw am ofal cyfrwng Cymraeg.”