14 Rha 2022

Cymorth gyda’r her costau byw

Mae her costau byw yn taro Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd fel pob sefydliad, elusen a busnes arall. Mae ein staff yn gweithio’n galed i ddylanwadu cyllidwyr i ymateb i’r her gan wybod nad oes atebion syml na hawdd ar gael.

Dyma amrywiol syniadau ar sut i ymateb i her costau byw:

Ymgyrch ‘Yma i helpu gyda chostau byw’ – rydym i gyd angen ychydig o help a chymorth o bryd i’w gilydd, a gyda chostau byw cynyddol mae nifer o bobl yng Nghymru angen help nawr. Dyma fanylion ymgyrch ‘Yma i helpu gyda chostau byw’ Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/yma-i-helpu-gyda-chostau-byw

Cynllunio model ariannol sy’n gweithio – gall Swyddog Cefnogi pob Cylch Meithrin gwblhau gwiriad iechyd busnes a defnyddio taenlen modelu ariannol er mwyn cynllunio lefel ffioedd, lefel ceisiadau grant, ymdrechion codi arian ayyb. Mae mewnrwyd Mudiad Meithrin hefyd yn cynnwys amrywiol syniadau.

Syniadau grantiau – mae pob Cylch Meithrin a meithrinfa yn defnyddio grantiau fel ffordd i brynu adnoddau neu dalu am wasanaethau newydd gan felly dynnu pwysau oddi ar gyllideb refeniw dydd i ddydd y lleoliad. Dyma daflen grantiau ddiweddaraf y Mudiad: https://meithrin.cymru/i-gylchoedd/cyllido-a-grantiau/grantiau/

Ystyried ehangu gwasanaethau – oes gwasanaethau y gall eich lleoliad ei ddarparu na sydd ar gael yn barod er mwyn cynhyrchu incwm newydd? Dyma rai syniadau: Clwb Brecwast, Clwb Cinio, Clwb ar ôl Cylch, Clwb Gwyliau, Cylch Ti a Fi. Mae llawer i’w ystyried wrth ehangu i gynnwys gwasanaethau o’r fath. Gall eich Swyddog Cefnogi roi cyngor i chi ar eich opsiynau.

Cyngor ar Bopeth (Citizens Advice) – yn aml byddwch yn glust i wrando wrth i rieni a staff rannu eu pryderon efo chi. Mae’n bosib fod rhieni a staff fod angen help mwy arbenigol gyda phroblemau. Beth am awgrymu cysylltu gyda gwasanaeth ‘Cyngor ar Bopeth’? https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Cynnig Gofal Plant – Cofiwch fod cymorth ar gael i rieni dalu ffioedd gofal plant. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn cyllido hyd at 30 awr o ofal ac addysg i blentyn 3 oed i rieni cymwys sydd yn gweithio neu mewn hyfforddiant. Am ragor o wybodaeth ewch at  neu gysylltwch a’ch Awdurdod Lleol. Cynnig Gofal Plant Cymru | Help Gyda Chostau Gofal Plant yng Nghymru | LLYW.CYMRU

Dechrau’n Deg – Mae Dechrau’n Deg yn cyllido hyd at 12.5 awr yr wythnos o ofal plant i blant 2 oed sydd mewn byw mewn cymunedau penodedig, mae’r Llywodraeth hefyd yn brysur gweithio i ehangu’r gofal i bob plentyn 2 oed. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a’ch Swyddog Cefnogi neu Awdurdod Lleol.

Credydau di-dreth – Cofiwch fod credydau di dreth ar gael i gynorthwyo rhieni sydd yn gweithio gyda’u costau gofal plant . Gellid dderbyn cymorth o hyd at £2000 y flwyddyn tuag at gostau Gofal Plant. Am ragor o wybodaeth, ewch at  Tax-Free Childcare – GOV.UK (www.gov.uk)

Tips ar gynaladwyedd i Gylchoedd Meithrin

Lawrlwytho