Mae Mudiad Meithrin am fod yn rhan o greu dyfodol hyd yn oed yn well dros y 5 mlynedd i ddod, gan gydnabod bod angen gwneud newidiadau parhaus er mwyn helpu’n haelodau i ddatblygu gwasanaethau, addasu ac ymateb i ofynion newydd.
Estynnir gwahoddiad i bob plentyn, i bob teulu ac i bob un sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth i ymuno gyda ni.
Ein pennaf nod fydd i ysbrydoli newid dros y 5 mlynedd nesaf er mwyn cynyddu nifer y plant sy’n dechrau taith iaith gyda ni yn nghymuned Mudiad Meithrin gan gofio mai’r blynyddoedd ffurfiannol yw’r cyfnod gorau i ddylanwadu ar arferion iaith am oes.
Edrychwn ymlaen gyda brwdfrydedd at oresgyn heriau a manteisio ar gyfleon y 5 mlynedd nesaf. Trwy ganolbwyntio ar ein 5 uchelgais a chydweithio â phartneriaid amrywiol, byddwn yn meithrin cenedlaethau’r dyfodol sy’n falch o fod â’u gwreiddiau yn yr iaith Gymraeg. Byddwn yn ail-ddyblu’n hymdrech i wireddu’r gosodiad “ble bynnag mae ‘na blant bach, fe ddylai Mudiad Meithrin ac felly’r Gymraeg fod yno hefyd”. Beth am ymuno ar y daith Meithriniaith gyda ni?
Darllenwch y strategaeth yn llawn isod a mae modd i chi rannu eich sylwadau gyda ni drwy’r linc yma – https://forms.office.com/e/FwhQaxSzDJ