Fel sefydliad sy’n angerddol am roi’r Gymraeg i blant Cymru, mae Mudiad Meithrin yn hynod falch o gyhoeddi fod cynnydd sylweddol i’w weld yn yr oriau o ofal wythnosol sydd ar gael i blant sy’n mynychu ein darpariaethau gofal plant ledled Cymru ac yn arbennig felly ein Cylchoedd Meithrin.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae’r ffigwr cyfanswm wythnosol wedi codi’n syfrdanol o 6,180 o oriau o ofal plant yr wythnos yn 2015/16 i 8,554 o oriau yr wythnos eleni – cynnydd trawiadol o 2,374 o oriau o ofal plant a’r cyfanswm oriau uchaf erioed.”

Mae’r data yn cadarnhau pwysigrwydd ein gwaith i ehangu gwasanaethau Cylchoedd Meithrin ynghyd â’r gwaith o agor Cylchoedd Meithrin newydd trwy’r cynllun Sefydlu a Symud (SaS). Ers sefydlu’r cynllun SaS yn 2017 mae 61 o Gylchoedd Meithrin wedi eu hagor neu ehangu ledled Cymru.

Yn ogystal â hyn mae canran dilyniant yn parhau yn uchel ledled Cymru – gyda 86.85% o blant yn trosglwyddo o’n Cylchoedd Meithrin i addysg Gymraeg. Gwelodd sawl sir y cynnydd uchaf mewn dilyniant ers 2016 gyda Conwy yn cynyddu o 83.37% yn 2015-16 i 99.66% yn 2022-23 a Phowys yn cynyddu o 74.27% yn 2015-16 i 86.32% yn 2022-23.

Mae’r data hefyd yn fodd i dynnu sylw at y model cynyddol sydd i’w weld yn datblygu yn ein Cylchoedd Meithrin trwy symud o ofal sesiynol am fore yn unig fel oedd yn arferol yn draddodiadol i gynnig darpariaeth gofal dydd llawn a’r manteision amlwg hynny i blant a’u rhieni/gofalwyr. Bellach mae 11,076 o blant yn mynychu ein Cylchoedd Meithrin ar hyd a lled Cymru gan gynnig addysg a gofal dydd fforddiadwy o safon uchel i deuluoedd.

Ychwanegodd Gwenllian:

“Mae hyn yn rhoi mwy o dystiolaeth i ni am gynnydd ieithyddol y plant na ffigyrau plant a dilyniant i addysg Gymraeg yn unig, achos yn amlwg, po fwyaf o gyswllt y caiff plentyn gyda’r Gymraeg, po orau, gan y bydd yn caffael yr iaith yn gyflymach.”

 

  NIFER CYLCHOEDD MEITHRIN ORIAU GOFAL WYTHNOSOL
2015-16 467 6180
2016-17 491 6191
2017-18 462 6403
2018-19 454 7176
2019-2020 436 7597
2020-2021 440 7824
2021-2022 446 8331
2022-2023 454 8554