Hyfforddiant | 13 Gor 2023

Dysgwyr y flwyddyn 2023

Yn seremoni Gwobrwyo Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 7 Gorffennaf, fe gyhoeddwyd y dysgwyr a enillodd ‘Dysgwr y Flwyddyn’. Gwobrwywyd un dysgwr ymhob cwrs ar draws Cymru a dyma’r dysgwyr buddugol.

Cwrs Lefel 1 Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Chelsea Roberts, Ysgol Ystalyfera Bro Dur

Cwrs TAG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Olivia Lewis, Ysgol Bro Edern

Cwrs Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Charlie Jones, Ysgol Ystalyfera Bro Dur

Fel enillodd Charlie y wobr am y dysgwr gorau yn gyfan gwbl hefyd. Gallwch wylio fideo o’r tri isod.