Blog | 21 Chw 2024

Edrych yn y drych: dechrau eich taith ddysgu gwrth-hiliol

Cefndir:

Mae staff Mudiad Meithrin ac ymarferwyr Gofal Plant o’r Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd wedi bod yn dod at ei gilydd ar draws Cymru i ddysgu am hil ac ethnigrwydd gyda Rachel Clarke. Pam fod hil ac ethnigrwydd yn bwnc pwysig i ymarferwyr blynyddoedd cynnar ei archwilio? Yma, mae Menna Machreth, Prif Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant, yn crynhoi rhai pwyntiau dysgu allweddol o’r diwrnodau hyfforddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchelgais o droi Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Gobeithir bydd y plant ifanc yn ein Cylchoedd Meithrin yn byw mewn cymdeithas lle na fydd lliw eu croen yn effeithio’r ffordd y cânt eu trin a’u barnu, ac na fyddant yn profi hiliaeth. I wireddu hyn, bydd rhaid i bob un ohonom fod yn rhan o’r newid – pwy bynnag ydym a beth bynnag ein swydd – er mwyn mynd ati i ddadwreiddio hiliaeth o’n bywydau a’n cymunedau. Mewn lleoliadau gofal plant a blynyddoedd cynnar, mae gennym gyfle i gydnabod yr ystrydebau negyddol am hil sy’n bodoli yn ein plith ac sy’n cael eu pasio ymlaen i blant bach; ond, mae gennym gyfle i wyrdroi’r syniadau hynny hefyd.

Ble ydw i’n dechrau?

Ni allwn esgus bod hon yn dasg hawdd. Fel y dywedodd Rachel Clarke wrthym, bydd gofyn i ni fagu dewrder i edrych arnom ein hunain yn onest ac yn agored. Efallai na fyddwn yn gyfforddus â’r hyn a welwn ynom ein hunain. Dyma rai cwestiynau a ofynnwyd i brocio ein meddyliau yn ystod y cwrs:

  • Pryd fu’r tro cyntaf i chi fod yn ymwybodol o hil?
  • Sut mae ffactorau tu allan i chi eich hun wedi dylanwadu ar eich ffordd o feddwl am wahaniaethau hil? Da neu ddrwg? Pobl, pethau, cyfryngau…?
  • A yw hil wedi chwarae rhan yn eich bywyd personol?

I fi fy hun fel menyw Wen, gall siarad am effaith byw mewn cymdeithas hiliol fod yn anodd; e.e. yn blentyn bach, rwy’n cofio teimlo’n anghyfforddus pan sylweddolais fy mod yn rhywle lle’r oedd mwyafrif y bobl o’m cwmpas yn Ddu. Pam roeddwn i’n teimlo felly? Mae hiliaeth wedi’i wreiddio ym mhob rhan o’n bywydau, ac felly’r cam cyntaf yw cydnabod rhan hiliaeth yn ein bywyd ac ystyried drwy ba lens ydyn ni’n gweld y byd.

Rhannodd Rachel ei phrofiadau o fod yn fenyw Ddu, yn athrawes ac yn fam, a sut bu i’w hil olygu iddi gael ei barnu ar sail lliw ei chroen ar hyd ei hoes. Rhannodd storïau am ei nain, Betty Campbell, arloeswraig a ddaeth yn brifathrawes Ddu gyntaf Cymru – un a fu’n frwd dros gynnig cyfleoedd teg i blant TreBiwt, Caerdydd. Pan symudwn allan o’n comfort zone, dechreuwn sylweddoli faint sydd gennym i’w ddysgu a’r angen i fod yn agored i wella ein dealltwriaeth o faterion hil ac ethnigrwydd.

Mae gan bob un ohonom ein stori ein hunain, a chefndir a hunaniaeth unigryw. Cawsom ein herio yn y sesiwn i feddwl am y pŵer sydd gennym ar sail lliw ein croen, ynghyd â nodweddion eraill. Mae’n werth edrych ar y fideo pwerus canlynol, sy’n dangos sut fo pethau fel lliw croen, safle cymdeithasol, iaith a nodweddion eraill yn rhoi breintiau i rai, ond yn golygu nad yw pawb yn dechrau o’r un man: Heartbreaking Moment When Kids Learn About White Privilege | The School That Tried to End Racism

‘Hiliaeth yw’r dŵr, nid y siarc. Os ydym am wneud yn well, mae’n rhaid i ni drwsio ein diwylliant a’n systemau cyfan, nid dim ond pobl.’

Yn y gorffennol, bu tuedd i feddwl am hiliaeth fel digwyddiad (cam-drin geiriol neu gorfforol) yn hytrach na’r diwylliant hiliol sydd o’n cwmpas. Er mwyn troi’r llanw ar hiliaeth, rhaid edrych ar amgylchedd mewn lleoliadau meithrin i weld a ydynt yn gwneud i bob plentyn deimlo eu bod yn perthyn.

Un o ddelweddau mwyaf arswydus y diwrnod oedd hanes merch ifanc Ddu oedd yn mynychu meithrinfa. Cyn dechrau yn y feithrinfa, tynnodd y ferch lun o’i hun a lliwio ei chroen yn Ddu; erbyn iddi orffen ei chyfnod yn y feithrinfa, roedd yn lliwio ei chroen yn wyn lliwio’i gwallt yn felyn. Beth wnaeth iddi wneud hyn? Nid y ‘siarc’ nac unrhyw ddigwyddiad penodol, ond y dŵr yr oedd hi ynddo – sef ei hamgylchedd – a oedd yn ffafrio lliw croen Gwyn.

Wrth gwrs, mae lleoliadau gofal plant a blynyddoedd cynnar eisiau estyn croeso i bawb, ond gwyddom hefyd ei bod yn cymryd mwy na hynny i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’r cysyniad o ‘Cynefin’ yn elfen gref o’r Cwricwlwm newydd, a rhaid sicrhau bod lle i bob hil ac ethnigrwydd yn y cynefin hwnnw. Gall olygu mynd yr ail filltir i gynnwys y plentyn a’i deulu yn eich lleoliad, gan ddysgu sut i ddathlu a chynrychioli eu hunaniaeth ethnig mewn ffordd ddilys yn y lleoliad.

Dyma arweiniad Rachel ynghylch bod yn agored i gwestiynau am hil gan blant 0-5 oed:

Yn y blynyddoedd cynnar, efallai y bydd plant yn dechrau sylwi ar wahaniaethau ymhlith y bobl a welant o’u cwmpas. Fel ymarferwr, mae gennych gyfle i’w helpu i ddatblygu sylfaen eu byd-olwg. Defnyddiwch iaith sy’n briodol i’w hoedran ac yn hawdd iddynt ei deall.

Adnabod a dathlu gwahaniaethau: os yw plentyn yn holi am liw croen rhywun, gallwch ei ddefnyddio fel cyfle i gydnabod bod pobl yn edrych yn wahanol, ond i dynnu sylw at bethau sydd gennym yn gyffredin. Fe allech chi ddweud, “Rydyn ni i gyd yn bobl, ond rydyn ni i gyd yn unigryw, ac mae hynny’n anhygoel”!

Byddwch yn agored: Gwnewch yn glir eich bod bob amser yn agored i gwestiynau gan y plant a’i bod hi’n iawn i ofyn cwestiynau. Os bydd eich plant yn tynnu sylw at bobl sy’n edrych yn wahanol – fel y gall plant ifanc ei wneud yn aml o chwilfrydedd – peidiwch a’u hanwybyddu neu eu tawelu neu fe fyddan nhw’n dechrau credu ei fod yn bwnc tabŵ.

Siaradwch am degwch: Mae plant o gwmpas 5 oed, yn tueddu i ddeall y syniad o degwch yn eithaf da. Gallwch siarad am hiliaeth fel rhywbeth annheg ac annerbyniol a dyna pam mae angen i ni gydweithio i wella’r sefyllfa.

Mae hon yn daith o ddysgu i bawb, ond mae’n daith bwysig i fod arni. Gweledigaeth Mudiad Meithrin yw y bydd pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i gael gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg…ac mae pob plentyn yn golygu plant o bob hil ac ethnigrwydd. Wrth wneud hynny, ni allwn fod yn ddall i’r hiliaeth sydd wedi’i wreiddio mewn cymdeithas – hiliaeth a fydd yn niweidio’r plant ifanc yn ein gofal – a gwrthodwn y safbwynt mai addysg i blant Gwyn yw addysg Gymraeg; gweithiwn i sicrhau fod y Gymraeg yn perthyn i bawb.

 

Cyhoeddwyd gan Menna Machreth, Prif Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Mudiad Meithrin