Daeth y cynllun AwDUra ar amser gwych i mi. Ro’n i’n tynnu at ddiwedd fy nghyfnod mamolaeth, felly ro’n i adref, yn segur ac yn ddi-gymhelliant, a gwelais hysbyseb ar gyfer ysgrifenwyr Du, Asiaidd ac o gefndiroedd lleiafrifol Cymraeg. Darllenais fwy am y prosiect ac roedd yn sbardun i mi weithredu.

Cynllun Mudiad Meithrin ar gyfer ysgrifenwyr Du, Asiaidd ac o gefndiroedd lleiafrifol yw AwDUra, i’w hannog i ddechrau ysgrifennu i blant. Ei nod yw i, ‘Rhoi llais a phlatfform i bobl Ddu, Asiaidd ac o gefndiroedd lleiafrifol ysgrifennu, creu a chyhoeddi straeon yn y Gymraeg, fel bod plant yn gweld nhw eu hunain ac amrywiaeth ein cenedl mewn llyfrau.’

Rwy’n ddarllenydd brwd, a phan ddes i’n athrawes ysgol gynradd roedd meithrin y cariad a diddordeb hynny at lyfrau o fewn plant yn ganolog i fy ngwerthoedd, ac yn rhywbeth rwy’n teimlo’n gryf iawn yn ei gylch.  Rhaid cyfaddef, dim ond yn y blynyddoedd diwethaf, ers cael fy mhlant fy hun, y dechreuais i adnabod diffyg cynrychiolaeth yn llenyddiaeth plant, yn enwedig yn llenyddiaeth Gymraeg. Dechreuais gwestiynu fy mhrofiadau fel darllenydd wrth dyfu fyny, a ni allaf feddwl am un llyfr oedd â phrif gymeriad cryf a chadarnhaol, neu hyd yn oed is gymeriad cadarnhaol oedd hefyd yn Ddu a fyddai’n medru bod yn fodel i mi.  Ar ôl i mi sylweddoli hyn, dechreuais greu llyfrau i fy nosbarthiadau, weithiau’n gysylltiedig â phynciau penodol, weithiau er mwynhad. Roedd ymateb y disgyblion yn syfrdanol – fe wnaeth bob un o fy nisgyblion fwynhau’r llyfrau, a gwnaeth y plant o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifol sylwadau ar y ffaith bod rhai o’r cymeriadau yn edrych fel nhw. Wnaeth hynny bwysleisio’r angen o fewn ein cymdeithas i gael straeon sy’n cynrychioli ac yn dangos ystod lawn ein cymdeithas amrywiol, a hynny er mwyn ysbrydoli, annog ac arwain plant ifanc o bob cefndir ar bwynt mor allweddol yn eu datblygiad. Yng nghefn fy meddwl roeddwn yn gyffrous i feddwl am ddatblygu’r syniadau hynny ymhellach, ond doedd gen i ddim syniad lle i gychwyn arni… nes i mi ganfod y cynllun AwDUra.

Wrth ddisgwyl i gael ymuno â’r cyfarfod cyntaf ar-lein gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus eraill, Gwenllian, Jessica a Manon, ro’n i ar bigau’r draen; a fyddai disgwyl i mi baratoi syniad ar gyfer llyfr? A fyddai fy syniadau’n gwneud synnwyr? A fyddai’r ymgeiswyr eraill â mwy o brofiad na minnau?

Fodd bynnag, doedd dim angen i mi boeni. Yn syth wedi i’r cyfarfod dechrau fe wnaeth Gwenllian i mi deimlo fel petawn i’n rhan o’r criw, a bod gen i gyfraniad gwerthfawr i wneud. Cefais fy nharo’n syth gan ei hangerdd heintus am y cynllun, a ni allaf ddisgwyl i fod yn rhan o’r cynllun cefnogi a mentora am y pedwar mis nesaf.  Uchafbwynt hyd yn hyn yw’r sesiwn holi ac ateb efo Marva Carty, a thrafododd ei siwrne hithau a chyfieithu a rhyddhau ‘Mae Mari’n Caru Mangos’. Uchafbwynt arall oedd cyfarfod Manon Steffan Ros, a rannodd ei gwybodaeth, sgil a phrofiad gyda ni. Fe wnaeth hyn i mi ddadansoddi fy syniadau fy hun, yr oblygiadau wrth gyhoeddi ac argraffu, a’r ffordd orau i gyfathrebu efo arlunydd.

Edrychaf ymlaen at ein diwrnod ‘wyneb-yn-wyneb’ mis nesaf, a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny i gyfathrebu a chyd-weithio â phobl sydd wedi llywio eu ffordd drwy fyd llenyddiaeth Gymraeg. Rwyf wedi cael fy adfywio ac ar dân eisiau gweld ble all y cyfle hwn fy arwain…