Dydd Iau, 19 Ionawr 2023 bydd Tîm Talaith y De-ddwyrain Mudiad Meithrin yn lansio clipiau fideo wedi eu hanelu’n benodol at rieni di-Gymraeg er mwyn eu hannog i ddewis gofal ac addysg Gymraeg i’w plant trwy’r Cylchoedd Ti a Fi a’r Cylchoedd Meithrin. Mae’r clipiau fideo yn rhannu profiadau rhieni ynghyd â chlywed gan rai sydd wedi bod ar y daith iaith gan ddechrau mewn Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin

Cafwyd y syniad gan y tîm i gynhyrchu sawl clip fideo sydd wedi ei ffilmio yng Nghylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin siroedd y De-ddwyrain i dynnu sylw bod gofal ac addysg Gymraeg ar gael i bawb.

Mae nifer o rieni’n rhannu eu profiadau am eu penderfyniad i ddewis addysg Gymraeg i’w plant a’r manteision mae eu plant wedi cael wrth dyfu’n ddwyieithog gan gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwr erbyn 2050.

Dywedodd Laura Brown sydd yn rhiant i blentyn mewn Cylch Meithrin yn y de-ddwyrain:

“Dydw i ddim yn siarad Cymraeg, ond rwy am i fy mhlant dderbyn bob cyfle, ac i fod yn un o’r Filiwn Siaradwyr Cymraeg. Dydw i ddim yn gwybod be hoffan nhw fod, yn nhermau swyddi na’r dyfodol… Ond rwy am iddyn nhw gael y fantais honno a dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i roi’r cyfle i blant fod y gorau gallan nhw fod.”

Dywedodd Neneh-Jallow sy’n un o rieni sy’n mynd i Gylch Ti a Fi Bettws (Casnewydd):

“Hoffwn iddi siarad Cymraeg. Credaf fod siarad mwy o ieithoedd yn rhoi mwy o gyfleoedd i ti.”

Laura Brown
Neneh Jallow

Dywedodd Alys a Tim Carter sydd â’u plentyn yn mynychu Cylch Meithrin:

“Maen nhw’n cael gymaint o hwyl… pethau bach fel yr wythnos hon roedd hi’n eistedd wrth fwrdd y gegin yn cyfri i ddeg yn Gymraeg a doedd gennym ni ddim syniad ei bod hi’n medru gwneud hynny!  Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn magu ein plant yn ddwyieithog i fynegi eu hunain yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dydyn ni ddim teimlo ein bod yn cael ein gadael allan gan nad ydyn ni’n siarad Cymraeg – ry’ch chi’n rhan o’r gymuned yn syth ac mae pobl yn siarad Saesneg gyda chi os oes angen. Maen nhw’n dysgu ‘chydig o Gymraeg i chi, a ry’ch chi’n mynd adref gyda phytiau bach o Gymraeg i ymarfer gartref fel y gallwch chi ymuno.” 

Clywn hefyd gan oedolion sydd nawr yn defnyddio’u Cymraeg yn y gweithle a’u profiad nhw o ddechrau eu haddysg Gymraeg mewn Cylch Meithrin ac yna parhau ar y continiwm ieithyddol ar hyd y daith addysgol gan orffen eu haddysg fel siaradwyr Cymraeg hyderus.

Dywedodd Morgan Hart, sydd bellach yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghylch Meithrin Canol Dref, Pen-y-bont ar Ogwr:

“Roedd fy rheini am i mi gael y cyfleoedd na chawson nhw wrth dyfu. Roedden nhw am i bob drws fod ar agor i mi, a dyna wnaethon nhw. Dechreuais mewn Cylch Meithrin yn ddwy oed, ac os gwnei di ddechrau mewn Cylch Meithrin mae’n gychwyn cadarn i bopeth arall.’

Eglurodd Evie Wilkins, sydd bellach yn gweithio yn Ysgol Gyfyn Gwynllyw:

“Doedd neb yn fy nheulu wedi bod i ysgol Gymraeg felly penderfynon nhw ein danfon i Gylch Meithrin oedd yn agos i ni… wnaethon ni fwynhau’n fawr… Mae plant yn caffael ieithoedd mor hawdd mae’n gwbl ddiymdrech.”

Bydd modd gweld y fideo o’r ddolen isod ar ôl i’r fideos gael eu cyhoeddi yn y lansiad am 10am fore Iau. Mae croeso i unrhyw un eu rhannu.

Alys a Tim Carter
Morgan Hart