Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Gyda 100 diwrnod i fynd hyn nes diwrnod Etholiad Senedd Cymru mae Mudiad Meithrin wedi lansio ei faniffesto ar gyfer Etholiad Senedd Cymru 2026. Ynddo mae’r Mudiad yn galw ar y  Llywodraeth am ragor o fuddsoddiad i gefnogi’r sector gofal plant yng Nghymru gan fynd i’r afael â thri maes blaenoriaeth, sef:  

 

  • Sicrhau Ansawdd a Chynaliadwyedd: Gan sicrhau darpariaeth gofal ac addysg gynnar o ansawdd gyda chyllid teg ar gyfer y sector ac ar gyfer Mudiad Meithrin.   

 

  • Ehangu Darpariaeth: Gan gynllunio darpariaeth gofal plant ac addysg gynnar cyfrwng Cymraeg wedi’i gyllido o 9+ mis, gan gyfrannu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

 

  • Codi Hyder a Sgiliau: Gan godi hyder, gwybodaeth a sgiliau o fewn y gweithlu blynyddoedd cynnar, pwyllgorau gwirfoddol a rhieni a gofalwyr. 

 

Mae ffigurau Mudiad Meithrin yn dangos cynnydd sylweddol yn yr oriau gofal plant wythnosol yn y Cylchoedd Meithrin dros y 5 mlynedd ddiwethaf o 7597 o oriau (2019-20) i 8,906 (2023-4) gyda dros 77% o’r plant hynny yn dod o deuluoedd lle nodir mai Saesneg yw iaith y cartref. Mae tua 22,000 o blant yng Nghymru yn elwa o ddarpariaeth gofal a chwarae blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg trwy wasanaethau’r Mudiad yn wythnosol 

Dywedodd Dr Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, 
“Mae’r Mudiad yn angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg. Gyda chynnydd ym muddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y Mudiad gallwn ddatblygu’n bwerdy i’r blynyddoedd cynnar gan wybod mai’r cyfnod cynnar ym mywyd plant yw’r allwedd aur i sicrhau twf ar ran y Gymraeg a ffyniant am oes.” 

 

 I ddarllen y Maniffesto yn llawn, cliciwch yma.