Ein gweledigaeth fel Mudiad yw y dylai bob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i chwarae, dysgu a thyfu trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly ble bynnag mae ’na blant bach yng Nghymru yna dylai Mudiad Meithrin – ac felly’r Gymraeg hefyd, fod yn bresennol.  

 

Yn sgil cyhoeddi Gwerthusiad o’n Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y llynedd, fe lansiodd Mudiad Meithrin strategaeth Mae Pawb yn Perthyn: Cynllun Tegwch a Gwrth-hiliaeth Mudiad Meithrin 2024-2027 ar ddydd Llun 5ed Awst ar stondin y Mudiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.

 

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac i Mudiad Meithrin mae ein gwaith gwrth-hiliol ac amrywiaeth yn ganolog i’r weledigaeth honno. Yn aml iawn, bydd plant a’u rhieni yn dechrau ar eu taith i fod yn siaradwyr Cymraeg drwy wasanaethau’r Mudiad, a’n nod ni felly yw sicrhau fod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ar ddechrau’r daith honno – beth bynnag eu cefndir, hil, cred, rhywioldeb, anabledd neu anghenion dysgu. Mae pawb yn perthyn!”

 

Mae sawl agwedd wahanol i waith Mudiad Meithrin, ac felly mae’r Cynllun newydd wedi ei rannu yn bedwar thema:

  1. Ein gweithlu a’n gweithle
  2. Ein gwasanaethau
  3. Ein lleoliadau
  4. Ein partneriaethau

Meddai Menna Machreth, Prif Swyddog Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chydraddoldeb Mudiad Meithrin:

“Mae tipyn o waith i’w wneud, ond rydym yn falch iawn o’r angerdd sydd gan staff Mudiad Meithrin a Chylchoedd Meithrin ledled Cymru i wneud yn siŵr fod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn – nid dim ond i’w lleoliad ond i’w cymuned ac i’r Gymraeg.”

 

Roedd y digwyddiad yn gyfle hefyd i ddysgu mwy am rai o’r prosiectau a’r datblygiadau sydd wedi deillio yn sgil cyhoeddi’r strategaeth e.e. ymrwymo i ymgyrch dim goddefgarwch tuag at hiliaeth; creu adnoddau sy’n adlewyrchu amrywiaeth hil, diwylliant, crefydd a gwahaniaethau corfforol.

 

Un o’r prosiectau hyn yw’r cynllun AwDUra – sef cynllun i fentora 12 o ddarpar-awduron Du, Asiaidd neu Ethnig Lleiafrifol i sgwennu llyfrau yn Gymraeg i blant bach. Cyhoeddwyd 3 o’r llyfrau dan y cynllun hwn bellach sy’n gyhoeddiadau pwysig iawn gan eu bod yn cau’r bwlch gwybodaeth sy’n bodoli o ran adnoddau addas Cymraeg ar gyfer plant bach gan wneud i bawb deimlo eu bod yn perthyn i deulu Mudiad Meithrin.

 

Un o’r llyfrau a gyhoeddwyd yn y gyfres AwDUra yw ‘Granchie a’r Dderwen Fawr’ gan Chantelle Moore – stori i gynhesu’r galon am ddiwylliant, hunaniaeth a dod i delerau â cholled. Roedd Chantelle yn bresennol yn y lansiad i siarad am y profiad o fod yn un o’r awduron newydd ar y cynllun. Bu modd i’r Mudiad ymestyn ar y cynllun hwn yn ddiweddar trwy ennill grant o gronfa Windrush a’u galluogodd i greu fideo o Chantelle yn darllen ei stori, yn ogystal â chomisiynu Nia Morais, Bardd Plant Cymru, i gyfansoddi cerdd yn ymateb i’r stori. Roedd Nia hefyd yn bresennol i ddarllen ei cherdd i Chantelle.

Yn y llun mae Catrin Edwards (Cadeirydd Mudiad Meithrin), Jaqueline Hooban, Nia Morais, Chantelle Moore, Dr Gwenllian Lansdown Davies, Menna Machreth.
Clawr Llyfr 'Granchie a'r Dderwen Fawr'