Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i blant ddysgu, chwarae a thyfu yn y Gymraeg, mae Mudiad Meithrin yn falch o gyhoeddi y bydd plant bach o’n holl Gylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd Ynys Môn yn dod at ei gilydd i ffurfio Côr Meithrin Mwya’r Byd i ganu Pen-blwydd Hapus i Mistar Urdd yn 50 oed ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ynys Môn eleni.

Am 12.00 y pnawn, ddydd Sadwrn 23 Mai, yn yr Adlen, bydd y côr arbennig yma o blant dan 5 oed yn cael ei arwain gan Catrin Angharad Jones i ganu cân ‘Hei Mistar Urdd!’ i alw Mistar Urdd ar y llwyfan cyn canu Pen-blwydd Hapus iddo yn 50 oed.

Meddai Haf Rowlands, Rheolwr Talaith Mudiad Meithrin yn y Gogledd-orllewin:

“Gan fod Mistar Urdd yn 50 oed eleni, roedd Dewin a Doti a phlant o holl gylchoedd a meithrinfeydd dydd Ynys Môn yn awyddus i wneud rhywbeth arbennig i ddathlu’r achlysur.

Daeth y syniad o wahodd pawb, gan gynnwys plant bach Cymru sydd yn ymweld â’r Eisteddfod ar Ynys Môn, i ganu Pen-blwydd Hapus i Mistar Urdd yn yr Adlen ar fore Sadwrn yr Eisteddfod. ‘Dan ni’n gobeithio y bydd cannoedd o blant a’u teuluoedd yn dod ynghyd i greu ‘Côr Meithrin Mwyaf y Byd’. Mae croeso cynnes i unrhyw blentyn a’i deulu sy’n mynychu Eisteddfod ar y bore Sadwrn i ymuno â ni yn yr Adlen i fod yn rhan o’r côr arbennig yma – dewch yn llu!”

Ychwanegodd Catrin Angharad Jones:

 “Dwi mor falch fod y Mudiad Meithrin wedi gofyn i mi arwain Côr Meithrin Mwyaf y Byd! Braf fydd gweld plant bach ledled Cymru yn dod ynghyd i ganu pen-blwydd hapus i un o arwyr mwyaf y genedl! Diolch i’r Mudiad Meithrin am y weledigaeth o gynnal digwyddiad o’r fath am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.”

Bydd y Côr yn canu ar ôl lansiad swyddogol Sioe Dewin a Doti gyda’r Welsh Whisperer am 11.30 yn yr Adlen y bore hwnnw.

Mae Sioe Dewin a Doti eleni am deithio ledled Cymru ym mis Mehefin a dechrau Gorffennaf. ‘Ar y Fferm’ yw teitl y sioe wrth i’r Welsh Whisperer ymweld â fferm Tad-cu gan helpu i chwilio am anifeiliaid sydd ar goll gyda help Dewin a Doti. Mae tocynnau i nifer o leoliadau’r daith yn y gogledd wedi gwerthu i gyd felly dyma gyfle i’r rhai sydd heb docyn i weld y sioe fel rhan o arlwy Mudiad Meithrin yn Eisteddfod yr Urdd eleni.