Newyddion Cenedlaethol | 13 Tac 2024

Mudiad Meithrin yn annog y llywodraeth i sicrhau cymorth ariannol i blant anabl gael mynediad i ofal plant

Mae Mudiad Meithrin wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cymorth ariannol i blant anabl gael mynediad i ofal plant, yn sgil adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd. Yn eu hymchwiliad, mae’r pwyllgor wedi tynnu sylw at yr anawsterau a wynebir gan blant anabl a’u teuluoedd, gan amlygu bod y system ariannu bresennol yn annheg.

Mae’r adroddiad yn argymell newid sylweddol, gan gynnwys sicrhau bod cymorth ariannol ar gyfer gofal plant yn cael ei seilio ar anghenion y plentyn, nid cymhwyster y rhieni. Mae Mudiad Meithrin yn cefnogi hyn, gan nodi bod llawer o blant yn cael eu heithrio o ofal plant oherwydd systemau ariannu cymhleth a’r ffaith bod y Cynnig Gofal Plant yn seiliedig ar statws gwaith y rhieni, nid ar anghenion y plentyn. Mae hyn yn arwain at sefyllfa lle nad yw plant anabl yn cael cyfleoedd cyfartal i fynychu gofal plant ac addysg, er bod gweithgareddau chwarae a rhyngweithio yn allweddol i’w datblygiad a chefnogaeth i’w teuluoedd.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad penodol ynglŷn â chlustnodi cyllid i gefnogi darpariaeth gynhwysol, mae Mudiad Meithrin yn annog y llywodraeth i weithredu’r argymhellion er mwyn trawsnewid y sefyllfa. Maent yn mynnu bod angen system fwy cynhwysol o ran addysg a gofal plant. Mae Cylchoedd Meithrin, megis Cylch Meithrin Pwllheli ac eraill, yn barod i chwarae rhan lawn wrth weithredu’r newidiadau hyn.

Mae Prif Weithredwr dros dro Mudiad Meithrin, Leanne Marsh, wedi mynegi pryderon y bydd plant anabl yn parhau i gael eu heithrio os nad yw’r system ariannu’n newid. Mae hi’n credu bod y sefyllfa bresennol yn rhoi’r pwyslais anghywir ar gymhwyster y rhieni yn hytrach na’r plentyn. Mae hi’n galw am system lle gall pob plentyn, waeth beth fo statws gwaith eu rhieni, gael mynediad at ofal plant addas gyda chefnogaeth ariannol.

Er enghraifft, enillodd Cylch Meithrin Pwllheli ‘Cylch i Bawb’ yng Ngwobrau Mudiad Meithrin 2024, sef gwobr am waith eithriadol ym maes cynhwysiant. Fodd bynnag, mae Kim Jones, arweinydd y cylch, yn tynnu sylw at yr heriau ariannol sy’n wynebu rhieni sy’n methu â chael mynediad at gymorth oherwydd nad ydynt yn gweithio.

Dywedodd Kim Jones, Arweinydd Cylch Meithrin Pwllheli:

“Mae prosesau cadarn mewn lle i gefnogi pob plentyn efo anghenion dysgu ychwanegol sydd yn mynychu ein cylch. Byddwn yn rhoi strategaethau mewn lle i gefnogi anghenion unigol y plentyn.

‘Dwi yn credu dylid ail-edrych ar rai elfennau, e.e. os yw rhieni yn gymwys i dderbyn 20 awr gofal plant am ddim mae modd i’r plentyn hwnnw gael mynediad i gymorth os oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol. Os nad yw’r rhieni’n gymwys, rhaid i rieni dalu am y gofal ac nid oes unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gael i gefnogi’r plentyn. A yw hyn yn gynhwysol? Mae angen i bob plentyn gael cyfle cyfartal. Mae’r plant yn cael cam am bod rhieni ddim yn gweithio a ddim yn cael yr un cyfleoedd â plant sydd efo rhieni sydd yn gweithio.”

Yn ogystal, mae problemau parhaus gyda darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) cyfrwng Cymraeg, gan wneud mynediad at addysg Gymraeg yn loteri cod post. Mae hyn yn arbennig o bryderus i rieni plant anabl sy’n dymuno addysg Gymraeg i’w plant ond sy’n cael cyngor bod addysg Saesneg yn fwy addas iddynt. Mae Mudiad Meithrin yn galw am strategaeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod addysg Gymraeg gynhwysol ar gael o’r blynyddoedd cynnar ymlaen.

Mae Myfanwy Harman, arweinydd Cylch Meithrin y Gurnos, hefyd wedi mynegi pryderon am ddiffyg adnoddau Cymraeg o ansawdd uchel i gefnogi plant anabl yn eu darpariaeth.

Meddai Myfanwy:

“Mae gofal plant yn faes heriol, ac er mwyn cefnogi plant anabl yn effeithiol mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, mae angen i ni gael mynediad i’r un adnoddau o ansawdd uchel sydd ar gael yn y Saesneg. Heb fynediad cyfartal i’r adnoddau hanfodol hwn, mae’r plant rydym yn gofalu amdanynt dan anfantais, ac mae staff yn wynebu heriau diangen wrth ddarparu’r gofal a’r cymorth gorau posib.”

Mae’r sefyllfa yn galw am gamau brys i sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â marchnata@meithrin.cymru.