Nod Mudiad Meithrin yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg gan gyfrannu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gyda 60 mlynedd ers darlith Tynged yr Iaith, mae Mudiad Meithrin yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda’r her recriwtio staff sydd yn wynebu’r sector blynyddoedd cynnar.

Mewn dogfen a elwir ‘Grym ein Gweithlu’, mae Mudiad Meithrin yn cynnig dadansoddiad lefel-uchel o natur yr her ac yn sbarduno sgwrs ar y newidiadau sydd eu hangen er mwyn denu unigolion i weithio yn y sector gofal plant.

Mae Mudiad Meithrin yn rhoi awgrymiadau ar sut gall Llywodraeth Cymru weithredu ym meysydd polisi, cyllid a chyflogadwyedd, hybu a hyrwyddo, cymwysterau a hyfforddiant.

Er gwaethaf y pwyslais ym maes polisi iaith dros nifer o flynyddoedd ar bwysigrwydd cynllunio’r gweithlu, mae’r diffyg gweithlu blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn her ddifrifol o hyd.

  • Cyfran fach – 4.4% – o’r rhai sy’n hyfforddi o’r newydd yn y maes sydd yn derbyn eu hyfforddiant drwy’r Gymraeg.
  • Mae’r addewidion calonogol i gefnogi agor 60 yn rhagor o Gylchoedd Meithrin yn ystod tymor y Senedd hon ac i ehangu’r cynnig gofal i blant yn creu her sylweddol ychwanegol o ran canfod gweithwyr
  • Er mwyn cwrdd â’r heriau a’r amcanion hyn, mae angen cymhwyso hyd at 300 o staff newydd y flwyddyn, sef 1500 yn ystod tymor y Senedd hon

Wrth gyflwyno ‘Grym ein Gweithlu’ i’r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles, meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Gwyddom o brofiad ac o edrych ar ddata mai Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd Cymraeg yw’n prif ffordd fel cenedl o ddechrau plant ar eu taith at ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus gan fod y mwyafrif yn symud ymlaen i ysgolion Cymraeg. Mae sicrhau gweithlu cymwys yn hollbwysig er mwyn cyfrannu at yr agenda hon ac er mwyn creu’r galw trwy sefydlu mwy o Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd Cymraeg.”

Mae’n gwbl berthnasol fod Llywodraeth Cymru a phawb sy’n ymddiddori ym maes polisi’r Gymraeg yn rhoi sylw i’r maes llafur hwn. Heb weithlu Gofal Plant, nid oes gobaith i ni wireddu cynlluniau pwysig ac uchelgeisiol Cymru ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg newydd i’r dyfodol.

Dywedodd Ioan Matthews. Prif Weithredwr Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Bydd cynllunio’r gweithlu a sicrhau bod cyflenwad digonol o staff i gynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector Gofal Plant a Chwarae yn allweddol o ran ymgyrraedd tuag at nodau Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru. Am y rheswm hwnnw, mae’r ddogfen hon i’w chroesawu’n fawr a bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn benodol wrth weithio gyda cholegau addysg bellach i gynyddu eu darpariaeth i ddysgwyr yn y meysydd hyn, a’u galluogi i gymhwyso fel ymarferwyr, yn edrych ymlaen at gyfrannu’n ymarferol at y gwaith.”

Grym ein Gweithlu

Lawrlwytho