Mae Mudiad Meithrin yn gweithredu ar benderfyniadau anodd yn sgil lleihad mewn nifer o grantiau sirol a chenedlaethol a chynnydd mewn costau. Un o’r penderfyniadau anodd a wnaed yn ddiweddar yw rhewi unrhyw swydd sy’n dod yn wag yn naturiol wrth i staff un ai adael i fynd i swyddi eraill neu ymddeol. Trafodir pa swyddi fydd yn cael eu llenwi neu rewi gan roi blaenoriaeth i swyddi sy’n hollol hanfodol i gefnogi’r cylchoedd ar lawr gwlad, neu swyddi sy’n cael eu cyllido o ffynonellau grant penodol am y tro.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Fel elusen ac un o sefydliadau sy’n gweithio yn y trydydd sector, mae’r flwyddyn nesaf am fod yn un heriol i’r Mudiad. Gyda chostau’n cynyddu a grantiau’n lleihau, ry’n ni wedi bod yn rhewi swyddi ers sawl mis gan ddilyn canllawiau penodol i benderfynu a ydyn ni am lenwi’r swydd ai peidio. Ein blaenoriaeth yw cynnal ein safonau a’n gwasanaethau ar lawr gwlad yn ein Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd.”

Nid rhewi swyddi yn unig fydd y Mudiad yn ei wneud i warchod gwasanaethau’r Mudiad – mae pob gwariant dan y chwydd-wydr.

Meddai Dr Catrin Edwards, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin:

“Rhai o’r arbedion eraill ry’n ni am eu gwneud yw lleihau ein presenoldeb yn y gwyliau cenedlaethol eleni, er enghraifft, ni fyddwn yn gallu cyfiawnhau mynd â pharc chwarae i Eisteddfod yr Urdd na’r Eisteddfod Genedlaethol a bydd ein stondin lawer llai o faint na’r arfer. Wrth wneud hyn byddwn yn gwneud arbediad o dros £20,000 yn ein costau sydd gyfystyr â chost swydd. Serch hynny, bydd yr un croeso cynnes yn cael ei estyn i bob teulu wrth ymweld â ni yn y gwyliau hyn i gael blas ar weithgareddau amrywiol fydd yn rhan o arlwy’r stondin.”

Mae Mudiad Meithrin yn cynllunio ar gyfer gwneud colled yn y flwyddyn ariannol nesaf fydd o fewn ffiniau fydd yn dderbyniol i gyllidwyr a’r Comisiwn Elusennau.

Ychwanegodd Gwenllian:

“Wrth ragweld y cyfnod heriol yma o’n blaenau, ry’n ni wedi bod yn gweithio’n galed i ddenu grantiau o sawl ffynhonnell arall i wireddu prosiectau arbennig – un o’r rhain yw ein llwyddiant i ddenu grant o bron i £500,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’r prosiect wedi’n galluogi i benodi 3 aelod o staff i wireddu prosiect 3 mlynedd i greu a chynnal sianel YouTube Dewin a Doti gan greu fideos amrywiol o wahanol Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd ledled Cymru gan ddod â’r Gymraeg yn fyw i gartrefi’r plant.”