Fel sefydliad sy’n angerddol am roi’r Gymraeg i blant Cymru, mae Mudiad Meithrin yn hynod falch o gyhoeddi y bydd cyfres o adnoddau trochi iaith newydd Gair am Air yn cael ei lansio am 2.00 bnawn Mercher, 9fed o Awst ar stondin y Mudiad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

 

Meddai Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu:

“Mae’r adnoddau hyn am fod yn werthfawr iawn i ni fel Mudiad wrth inni weithio’n barhaus i sicrhau fod gan ein haelodau fynediad at adnoddau dysgu a datblygu, a sesiynau hyfforddiant o safon uchel. Bydd yr adnodd hyfforddiant Cyflwyniad i’r Dull Trochi yn esbonio beth yw’r dull trochi a pham mai dyma’r ffordd mwyaf effeithiol i blant bach gaffael iaith. Bydd modd i unrhyw un ddilyn y cwrs hwn ar ei liwt ei hun.”

“Yn ogystal, bydd cyfres o fideos newydd ar gael sydd yn esbonio safbwyntiau ymarferwyr, rhieni ac academyddion am y dull trochi. Mae ymennydd plant bach yn rhyfeddol a’n gobaith ni drwy’r gyfres hon ydi cyflwyno sut mae plant bach yn caffael dwy iaith neu fwy; pam mai dim ond manteision sydd i fedru siarad mwy nag un iaith – a pha mor wych ydi plant bach am fedru gwneud hynny!”

 

Bu modd creu’r adnodd yma trwy grant a ddyfarnwyd i’r Mudiad i greu adnoddau addysgol cyfrwng Cymraeg gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adnodd Gair am Air yn un o’r gyfres o adnoddau sydd wedi eu creu ac wedi eu hanelu’n bennaf at leoliadau Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar a’r Cynnig Gofal Plant i blant rhwng 3 a 5 oed.

 

Meddai Dr Siân Wyn Siencyn, arbenigwr y blynyddoedd cynnar:

“Beth sy’n gwneud y Dull Trochi mor effeithiol ydi ei fod o’n seiliedig ar egwyddor syml, sef ein bod yn manteisio ar oed y plant sef yr oedran lle maen nhw’n caffael iaith – a dyna’r peth allweddol – dydyn nhw ddim yn dysgu iaith – maen nhw yn y broses o gaffael iaith. Mae caffael iaith yn broses anymwybodol ac mae’n dod o lle ’dan ni’n clywed pethau o’n cwmpas ni ac mae plant bach 2-3 oed, hyd yn oed o enedigaeth, yn beiriannau caffael iaith.”

 

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae Mudiad Meithrin wedi bod ar flaen y gad yn cynhyrchu adnoddau amrywiol ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ers ei sefydlu yn 1971. Ar bob cam o’r daith a gyda phob datblygiad perthnasol aed ati i arwain y sector gyda chyhoeddi adnoddau addas a phwrpasol trwy gyd-gynhyrchu gyda’r sector ei hun. Mae’r cyllid yma wedi ein galluogi i greu pecyn o adnoddau amrywiol newydd i Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd.”

 

Mae’r adnodd ar gael i bawb ar wefan y Mudiad – Y Dull Trochi – Mudiad Meithrin.

Mae croeso i bawb alw draw i’r lansiad am 2.00 bnawn Mercher, 9fed Awst ar stondin Mudiad Meithrin ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.