Mae Mudiad Meithrin yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Medi Jones-Jackson fel Rheolwr Marchnata, Cyfathrebu a Digwyddiadau newydd y Mudiad sydd wedi ymgymryd â’r rôl ers dechrau Tachwedd eleni.
Fel rheolwr, Medi fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am holl agweddau rheolaeth gwaith maes marchnata a chyfathrebu’r Mudiad gan gynnwys marchnata holl gynlluniau iaith y Mudiad fel Clwb Cwtsh, Camau, Croesi’r Bont a chynlluniau hyfforddi’r Mudiad fel Academi a Cam wrth Gam ynghyd â’r holl ddarpariaeth sydd ar gael trwy’r Mudiad i gefnogi teuluoedd a gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
Meddai, Iola Jones, Pennaeth Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin,
“Mae gan Medi flynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio ym maes marchnata, digwyddiadau a chyfathrebu mewn sawl sefydliad cenedlaethol ar draws Cymru. Ry’n ni wrth ein boddau gyda’r penodiad ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda hi wrth iddi ddod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i’r rôl ganolog hon. Croeso i Deulu Mawr Mudiad Meithrin!”
Wedi gweithio ym maes marchnata yng Nghymru ac yn rhyngwladol er dros ugain mlynedd, mae Medi wedi gweithio i rai o sefydliadau diwylliannol mwyaf Cymru gan ganolbwyntio’n ddiweddar ar reoli prosiectau hyrwyddo a digwyddiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru yn Japan, yr UDA a Dubai. Gyda’r profiad eang yma, mae Medi mewn sefyllfa arbennig i arwain ar ymgyrchoedd hyrwyddo gwaith canolog y Mudiad ynghyd â phrosiectau niferus sydd yn dod dan faner y Mudiad.
Meddai Medi Jones-Jackson,
“Dwi yn edrych ymlaen yn arw at ymgymryd â’r awenau marchnata, digwyddiadau a chyfathrebu ym Mudiad Meithrin. Mae’r Mudiad yn sefydliad cenedlaethol unigryw sydd yn chwarae rôl amhrisiadwy yn niwylliant Cymru gan greu siaradwyr Cymraeg newydd o blith plant a theuluoedd o’r blynyddoedd cynnar. Hyderaf y byddaf yn ymgymryd â hyrwyddo holl waith da’r Mudiad gyda balchder ac ymfalchïaf o fod yn aelod newydd o deulu mawr Mudiad Meithrin.”
Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy ond bellach wedi ymgartrefu ar gyrion Aberystwyth, mae Medi yn fam i ddau o blant, ac yn treulio ei hamser hamdden yn ysgrifennu llyfrau i blant a gwirfoddoli efo’r Samariaid. Enwebwyd ei llyfr, Genod Gwych a Merched Medrus am Lyfr y Flwyddyn a gwobr Tir na n’Og.