Fel mudiad sy’n angerddol am roi addysg Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru, cynhaliom Parêd Ponty fore Sul 4ydd Awst ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd i ddathlu addysg Gymraeg yng Nghylchoedd Meithrin Rhondda Cynon Taf.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Roedden ni’n falch iawn i gyhoeddi’r newyddion cyffrous y bod Martyn Geraint wedi arwain Parêd Ponty, gorymdaith arbennig gan blant a’u teuluoedd sy’n mynd i’n Cylchoedd Meithrin lleol i ddathlu twf addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Roedd gwahoddiad agored i bawb i ymuno â ni yn yr orymdaith arbennig hon ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd – hwn i’w ddileu!”
Cynhaliwyd cystadleuaeth arbennig i Gylchoedd Meithrin yr ardal i greu baneri mawr i hyrwyddo’u cylchoedd unigol (diolch i arian a gasglwyd er cof am y diweddar Carol Williams, Pentyrch). Cyrhaeddodd 18 o faneri lliwgar swyddfa’r Mudiad yng Nghaerdydd a chawsant eu beirniadu gan Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ac Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.
Cyhoeddodd y beirniaid yr enillwyr ar ôl i’r Parêd gyrraedd Llwyfan y Maes ar y dydd Sul a cyflwynodd Penri Williams (gweddw Carol Williams) y gwobrau i’r 3 Cylch Meithrin buddugol. Llongyfarchiadau mawr i’r cylchoedd a ddaeth i’r brig; yn Gyntaf oedd Cylch Meithrin Evan James, Cylch Meithrin Glynrhedyn yn ail ac yn y trydydd safle oedd Cylch Meithrin Cwm Elai.
Meddai Ann Angell, Rheolwr Talaith y De-ddwyrain:
“Roedd staff Mudiad Meithrin a’r Cylchoedd Meithrin yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn gweithio’n galed ar greu’r baneri i’r gystadleuaeth arbennig hon. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r cylchoedd am eu gwaith caled yn paratoi’r baneri ac i bawb a ddaeth i fod yn rhan o’r Parêd, roedd hyn yn benllanw misoedd o waith yn hyrwyddo ac yn cyflwyno negeseuon amserol am bwysigrwydd addysg Gymraeg a’n diwylliant i’r rhieni.”
Ychwanegodd Ann:
“Roedd dros 200 o blant a’u teuluoedd yn gorymdeithio i ddathlu addysg Gymraeg yn yr ardal yn y pared ac fe gafwyd amser gwych yn dathlu Addysg Gymraeg yn y sir gyda’r grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin a feithrinfeydd ddydd yn ymuno gyda ni.”
Roedd yr orymdaith wedi gorffen wrth Lwyfan y Maes lle roedd y diddanwr plant poblogaidd Martyn Geraint yn cyflwyno sioe i ddiddanu’r plant bach a’u teuluoedd.