Cafwyd ‘premiere’ o ffilm yn Ysgol Babanod Llanfairfechan wrth i Mudiad Meithrin a phartneriaid o Blynyddoedd Cynnar Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddod ynghyd i lansio ffilm fer sy’n dathlu’r gwaith cynllun Plethu Mudiad Meithrin.
Fe gafodd plant y Playgroup y profiad o weld ei hunain ar y sgrin fawr a chael cyfle i ganu a dawnsio gyda Dewin, cymeriad hoffus Mudiad Meithrin, fel rhan o’r dathliadau.
Yn y ffilm “Cynllun Plethu – O Leisiau bach i ddyfodol mawr” gwelwn blant yn chwarae a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a staff Llanfairfechan Playgroup yn trafod buddion defnyddio’r iaith yn y cylch chwarae.
Yn ôl Karen Hall, Arweinydd Llanfairfechan Playgroup,
“Mae cynllun iaith wedi bod yn ychwanegiad gwych. Mae’r plant yn awyddus iawn i ddefnyddio’r Gymraeg ac mae rhieni wedi bod yn gefnogol iawn hefyd, Mae nifer o rieni wedi dweud faint o Gymraeg mae nhw’n clywed gan ei plant yn y cartref.”
Ychwanegodd Matthew Jones, Pennaeth Ysgol Babanod Llanfairfechan,
“Mae’n bwysig bod y Playgroup yn hyrwyddo’r Gymraeg gan fod yr ysgol ar lwybr eithaf cyffrous ar hyn o bryd lle ‘dan ni’n y broses o newid ein categori ieithyddol.”
Ers mis Mai 2024 mae Mudiad Meithrin a Blynyddoedd Cynnar Cymru gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Ysgol Babanod Llanfairfechan wedi cydweithio i ddarparu cefnogaeth iaith i Llanfairfechan Playgroup yn rhan o gynllun Plethu i hwyluso siwrne wrth newid categori iaith yr ysgol fabanod i ysgol cyfrwng Cymraeg.
Mae Plethu yn rhan o gynllun Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin ac mae swyddogion y Mudiad yn ymweld â’r Playgroup bob pythefnos i fodelu patrymau iaith. Nod y cynllun ydi datblygu ac ehangu darpariaethau gofal plant a chwarae cyfrwng Cymraeg.
Meddai Sali Edwards, Prif Swyddog Sefydlu a Symud Mudiad Meithrin,
“Roedd yn bleser dod i Playgroup Llanfairfechan heddiw i weld faint maen nhw wedi datblygu eu defnydd o’r Gymraeg. Mae’n esiampl wych o beth sydd yn bosib ei gyflawni gyda phecyn llawn o gefnogaeth ieithyddol a brwdfrydedd y staff a’r plant.
Mae nifer o ddarpariaethau gofal plant a chwarae yn cymryd rhan yng nghynllun Plethu ar draws Cymru. Mae hyn yn gyfle euraidd i gyflwyno’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar er mwyn creu mwy o siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus yn y dyfodol.”
Dolen i’r ffilm fer: Cynllun Plethu Llanfairfechan / Playgroup is supported to provide more Welsh for children