Roedd prosiect AwDUra yn brosiect am ysgrifenwyr newydd, yn benodol o’r gymuned Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yng Nghymru. Roedd Mudiad yn rhedeg y cynllun o 2022 tan 2023 er fod y gwaddol yn parhau hyd heddiw (gyda chyhoeddi fersiwn ffilm o fy stori i yn Eisteddfod Genedlaethol 2024). Cafodd deg ymgeisydd llwyddiannus eu dewis i fod yn rhan o’r prosiect, a chawson nhw ei mentora drwy’r flwyddyn gan awduron profiadol sef Manon Steffan Ross a Jessica Dunrod. Rhai o brif nodau’r prosiect oedd gwella ein hysgrifennu ac ein dealltwriaeth am y byd llenyddiaeth, ond y prif nod oedd ysgrifennu stori i blant, a chafodd 3 stori eu cyhoeddi.
Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig i ddweud tipyn bach am sut ro’n i’n gweld y prosiect fel potensial cyfrannwr ac fel cyfrannwr “go iawn”. Dwi’n dysgu addysg grefyddol yn yr ysgol uwchradd – dyna fy nghefndir i – ond do’n i byth yn gweld fy hun fel awdur…nes i erioed ddychmygu’r peth! Ond pan welais i hysbyseb Mudiad ar Facebook do’n i ddim just yn gweld cynllun arall ar gyfer y gymuned BAME fyddai heb bwrpas. Na! Y tro hwn gwelais brosiect gyda chanlyniad pendant – llyfr cyhoeddedig. Dangosodd yr hysbyseb i mi fod Mudiad yn ddifrifol am degwch neu equity a gwrth-hiliaeth ac yn barod i fod yn sefydliad fyddai’n gweithredu.
Fel cyfrannwr go iawn yn y prosiect, roedd yn amlwg bod Mudiad yn gweld yr angen i ehangu ‘drysau’r iaith’ er mwyn caniatáu i bobl fel fi gymryd rhan. Dysgwr Cymraeg ydw i, fel y gallwch chi weld mae’n siŵr, ond doeddwn i ddim yn excluded o’r broses. Felly eto, ro’n i’n teimlo’n rhan o’r gymuned Gymraeg (er do’n i ddim yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl). Ac wrth i fwy a mwy o ysgolion Cymraeg gael eu hadeiladu, mae mwy o rieni yn mynd i optio i mewn i addysg Gymraeg, ac mae’n bwysig i lyfrau i gynrychioli pob agwedd o fywyd a phrofiad Cymreig. Yn ffodus i mi, ces i gyfle i rhannu fy stori am y daith fy nhad-cu i Brydain fel rhan o genhedlaeth Windrush yn lyfr gyntaf i – Granchie a’r dderwen fawr – diolch i AwDUra a Mudiad Meithrin.
*Cyhoeddir y blog hwn gyda diolch i grant Cronfa Windrush Cymru 2024*
I wylio’r Chantelle yn darllen y llyfr, dilynwch y ddolen yma – Granchie a’r Dderwen fawr
Archebwch y llyfr yma – Granchie a’r Dderwen Fawr – Mudiad Meithrin