Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi’r enillwyr a ddaeth i’r brig yn ein Seremoni Gwobrau a gynhaliwyd yn yr Ysgubor, Fferm Bargoed, Aberaeron ddydd Sadwrn diwethaf (18 Hydref).
Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a’r meithrinfeydd dydd ac fe gyflwynwyd y seremoni mewn modd slic a phroffesiynol iawn gan lais cyfarwydd ar Radio Cymru, Iola Wyn.
Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Roedd y Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a lleoliadau blynyddoedd cynnar gan ddangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Cafwyd dros 700 o enwebiadau eleni, sef y nifer fwyaf erioed ers i’r Gwobrau gael eu cynnal gyntaf 9 mlynedd yn ôl, ac mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal. Hoffem ddiolch yn fawr i Howden Insurance am noddi’r derbyniad gwin ar gyfer y Seremoni ac i Addysg Oedolion Cymru am noddi’r gwobrau.”
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd i ddathlu, cydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad am yr holl waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru. Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru.”