Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru. Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi’r enillwyr a ddaeth i’r brig yn ein Seremoni Gwobrau ar ddydd Sadwrn 15fed Hydref.
Ar brynhawn Sadwrn 15fed Hydref fe ddathlodd Mudiad Meithrin eu Seremoni Gwobrau flynyddol yn Social 23 yn Y Drenewydd, Powys.
Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y cylchoedd a’r meithrinfeydd dydd ac roedd y gyflwynwraig deledu boblogaidd Mari Lövgreen yn cyflwyno’r seremoni mewn modd slic a phroffesiynol iawn.
Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Roedd y Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a lleoliadau blynyddoedd cynnar dros y flwyddyn a fu gan ddangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Cafwyd dros 500 o enwebiadau eleni ac mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad gan roi cyfle inni i gyd-ddathlu’r arfer dda sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru, dod at ein gilydd i wneud hynny.”
Enillwyr Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin 2022
Gwirfoddolwr
1af. Rachael Freedman (Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae, Caerdydd)
2il. Tegwen Brickley (Cylch Meithrin Corris, Gwynedd)
3ydd. Michelle Davies (Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys)
Cylch i Bawb
1af. Cylch Meithrin Machynlleth (Powys)
2il. Cylch Meithrin Tŷ Mabon (Tywyn, Gwynedd)
3ydd. Cylch Meithrin Penparc (Ceredigion)
Dewin a Doti
1af. Cylch Meithrin Hywel Dda, Sir Gâr
2il. Cylch Meithrin Nelson, Caerffili
3ydd. Cylch Meithrin Y Fro Llangyndeyrn, Sir Gâr
Cynorthwy-ydd
1af. Donna Roberts (Cylch Meithrin Talwrn, Ynys Môn)
2il. Ceri Lewis (Cylch Meithrin Llanrhaeadr ym Mochnant, Powys)
3ydd. Lorraine Samuels (Cylch Meithrin Cefneithin Gorslas, Sir Gâr)
Ardal Chwarae a Dysgu Tu Allan
1af. Cylch Meithrin Nantdyrys, Rhondda Cynon Taf
2il. Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys
3ydd. Cylch Meithrin Nelson, Caerffili
Pwyllgor
1af. Cylch Meithrin Llangynnwr, Sir Gâr
2il. Cylch Meithrin Beddau, Rhondda Cynon Taf
3ydd. Cylch Meithrin Chwilog, Gwynedd
Gwobr Meithrinfeydd Cymru Cyf
1af. Meithrinfa Camau Bach, Aberystwyth
2il. Meithrinfa Garth Olwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd
Meithrinfa Ddydd
1af. Meithrinfa Hen Ysgol, Porthmadog, Gwynedd
2il. Meithrinfa Cywion Bach, Caerfyrddin
3ydd. Meithrinfa Plas Pawb Maesincla, Caernarfon
Arweinydd
1af. Sioned Wyn Jones-Roberts (Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys)
2il. Jayne Williams (Cylch Meithrin Hywel Dda, Sir Gâr)
3ydd. Abigail Gregson (Cylch Meithrin Cledlyn, Ceredigion)
3ydd. Manon Paschalis (Cylch Meithrin Y Parc, Caerdydd)
Dysgu a Datblygu
1af. Cylch Meithrin Llanhari, Rhondda Cynon Taf
2il. Cylch Meithrin Crymych, Sir Benfro
3ydd. Cylch Meithrin Cwmnedd, Castell-nedd Port Talbot
3ydd. Cylch Meithrin Traed Bach Tywyn, Ynys Môn
Cylch Meithrin Bach
1af. Cylch Meithrin Bwlchygroes, Sir Benfro
2il. Cylch Meithrin Y Fro Llangyndeyrn, Sir Gâr
3ydd. Cylch Meithrin Y Waun Ddyfal, Caerdydd
Cylch Ti a Fi
1af. Cylch Ti a Fi Cilfynydd a Phont Norton, Rhondda Cynon Taf
2il. Cylch Ti a Fi Croesoswallt, Sir Amwythig
3ydd. Cylch Ti a Fi Pum Heol, Sir Gâr
3ydd. Cylch Ti a Fi Y Fenni, Mynwy
Cylch Meithrin Talaith y De-Ddwyrain
1af. Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae
2il. Cylch Meithrin Beddau
3ydd. Cylch Meithrin Diwlith
Cylch Meithrin Talaith y De-Orllewin
1af. Cylch Meithrin Cledlyn
2il. Cylch Meithrin Llangynnwr
3ydd. Cylch Meithrin Ffynnonwen
Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Orllewin
1af. Cylch Meithrin Llannerch-y-medd
2il. Cylch Meithrin Tŷ Mabon, Tywyn
3ydd. Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel
3ydd. Cylch Meithrin Rhoscolyn
Cylch Meithrin Talaith y Gogledd-Ddwyrain
1af. Cylch Meithrin Llangollen
2il. Cylch Meithrin Bro Alun
3ydd. Cylch Meithrin Y Llys
Cylch Meithrin Cymru
1af. Grangetown a’r Bae
Dyma linc i ‘playlist’ fideos yr enillwyr – Enillwyr Gwobrau 2022 – YouTube