Tendr – Darparu cinio poeth i Meithrinfa Medra
Mae Meithrinfa Medra yn darparu gofal dydd llawn drwy gyfrwng y Gymraeg i blant o enedigaeth i oed ysgol ( gan amlaf 3 mlwydd oed). Mae 95 o blant yn mynychu’r Feithrinfa yn ddyddiol. Lleolwyd y plant mewn ystafelloedd gwahanol fesul oedran a hynny o dan ofalaeth tîm cymwysedig o staff.
Mae gan Feithrinfa Medra gegin, lle caniateir i staff ddarparu prydau bach megis brecwast, byrbrydau, a the (e.e ffa pob ar dost). Rydym angen cwmni i ddarparu pryd cynnes a maethlon i’r plant amser cinio fel eu pryd cynnes y dydd.