Newyddion Cenedlaethol | 16 Meh 2023

Ymateb Mudiad Meithrin i’r Papur Gwyn ar greu Deddf Addysg Gymraeg

Amcan Mudiad Meithrin yw creu siaradwyr Cymraeg newydd drwy’r system gofal plant ac addysg Gymraeg yn ogystal â thrwy raglenni cefnogi rhieni amrywiol gan roi cyfle i bob plentyn ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus.

Rhown groeso gofalus i gynnwys y Papur Gwyn ar greu Deddf Addysg Gymraeg gan ail-ddatgan ein cefnogaeth i addysg cyfrwng Cymraeg a’r dull trochi iaith.

Mae’r egwyddor o ddeilliant iaith i bob disgybl yn seiliedig ar lefel B2 yn draws-newidiol gyda’r cynllunio, buddsoddiad a chynllunio gweithlu angenrheidiol.

Er hynny, nodwn ein pryderon fod:

  • diffyg ystyriaeth ddigonol o’r Blynyddoedd Cynnar a’r ffaith fod mwyafrif y plant mewn addysg Gymraeg yn dechrau eu taith gofal ac addysg gynnar mewn Cylch Meithrin
  • dim digon o ystyriaeth i gynllunio gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar gan nodi’r her affwysol sy’n ein wynebu o safbwynt recriwtio a chadw staff o ystyried cyflogau annigonol.
  • angen cydnabod y dalcen caled sy’n wynebu Cylchoedd Meithrin ac ysgolion Cymraeg newydd gan dderbyn felly fod angen cyfradd gyllido uwch er mwyn eu sefydlogi.
  • angen buddsoddiad sylweddol ychwanegol er mwyn cefnogi plant yn y sector cyfrwng Saesneg i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus heb danseilio gofal ac addysg Gymraeg yn seiliedig ar y dull trochi iaith.

Hyderwn fod gan Mudiad Meithrin a’i chymuned ehangach (Cylchoedd a meithrinfeydd) gyfraniad pwysig i wneud i gyfrannu at y gwaith o dderbyn buddsoddiad ychwanegol.
Gallwch ddarllen ein ymateb llawn yn y ddogfen isod.

Ymateb llawn Mudiad Meithrin i’r Papur Gwyn ar greu Deddf Addysg Gymraeg. Mae ein hymateb ar gael yn y Gymraeg yn unig.

Lawrlwytho