25
Med

‘Mae Pawb yn Perthyn’

4 tocynnau ar ôl Am ddim

‘Mae Pawb yn Perthyn’: rhannu arfer da wrth roi tegwch a gwrth-hiliaeth ar waith mewn Cylchoedd Meithrin

Sesiwn gyda Menna Machreth, Prif Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Mudiad Meithrin

Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd Dydd, Mudiad Meithrin a phwyllgorau rheoli gwirfoddol

Bydd y sesiwn hon yn gyfle i glywed am arfer da mewn Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd o ran tegwch a chynwysoldeb, gan ddysgu o brofiadau ymarferwyr a lleoliadau.

Mae Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi llu o adnoddau dros y blynyddoedd diwethaf – ‘Cylch i Bawb’, ‘Dewch i Ddathlu’, ‘Pecyn LHDTC+’ a mwy – a chawn glywed sut caiff yr adnoddau hyn eu defnyddio.

Dewch i glywed astudiaethau achos byr a chael cyfle i holi cwestiynau i banel. Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i ddathlu cyhoeddi cynllun gweithredu newydd Mudiad Meithrin: ‘Mae Pawb yn Perthyn – Cynllun Tegwch a Gwrth-hiliaeth Mudiad Meithrin 2024-2027’.

Os hoffech ofyn cwestiwn am rywbeth yn ymwneud â’r maes, anfonwch eich cwestiwn at Menna Machreth erbyn Medi 21ain: menna.machreth@meithrin.cymru

Sesiwn yn y Gymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


‘Mae Pawb yn Perthyn’

  • Dyddiad Cau: 2024-09-25
  • Amser: 18:00 - 19:00
  • Lleoliad: Ar-lein