Cael Sgyrsiau Anodd (2)
Cael Sgyrsiau Anodd
O dan arweiniad Rhyl City Strategy
Addas i: Arweinwyr a Rheolwyr Cylchoedd Meithrin/ Meithrinfeydd Dydd / Staff Mudiad Meithrin / Pwyllgorau gwirfoddoli
A hoffech deimlo’n fwy hyderus wrth ymateb i sefyllfaoedd heriol? Ymunwch â’r sesiwn hon dan arweiniad RCS er mwyn dysgu am sgiliau a strategaethau ymarferol er mwyn llywio eich ffordd drwy sgyrsiau anodd yn effeithiol.
Bydd y cwrs yn cynnwys:
- Trafod a deall natur sgyrsiau anodd a pham maent yn digwydd
- Dysgu am strategaethau er mwyn rheoli a datrys gwrthdaro
- Meistroli’r grefft o wrando’n weithredol er mwyn deall ac ymateb mewn ffyrdd priodol
- Datblygu sgiliau er mwyn medru rhannu adborth cadarnhaol.
Sesiwn Cymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Cael Sgyrsiau Anodd (2)
- Dyddiad Cau: 2025-10-22
- Amser: 18:00 - 20:00
- Lleoliad: Ar-lein