Cyflwyniad CAREDIG- Caerdydd
Gyda Samantha Day, Tiwtor Asesydd Lefel 5 Cam wrth Gam
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin a Myfyrwyr Cam wrth Gam.
Cyflwyniad CAREDIG – mae’n cyflwyno dulliau therapiwtig i gefnogi plant sy’n gweld a phrofi’r byd yn wahanol neu sydd wedi profi trawma.
Bwriad y gweithdy hwn yw gwella dealltwriaeth ynglŷn â’n hymateb ni fel ymarferwyr, yr amgylchedd corfforol ac emosiynol – a sut gall hyn effeithio ar y plentyn yn emosiynol ac yn gorfforol.
Yn ystod y sesiwn bydd cyfle i feithrin dealltwriaeth a sgiliau i ddeall beth sy’n digwydd a beth all helpu yn ystod cyfnod o ymddygiad heriol, a beth allwn ni ei wneud i leddfu ymddygiad heriol yn yr hir dymor.
Bydd yr hyfforddiant yn rhoi sylw i’r materion canlynol:
- Gor-bryder
- Amgylcheddau addas
- Ffenest goddefgarwch
- Prosesau synhwyraidd
- Rheoleiddio emosiynol…a mwy.
Sesiwn Cymraeg.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Cyflwyniad CAREDIG- Caerdydd
- Dyddiad Cau: 2025-09-11
- Amser: 10:00 - 15:00
- Lleoliad: Swyddfa Caerdydd Mudiad Meithrin, 11 Tŷ Nant Court, Pentre Poeth, Caerdydd, CF15 8LW
- Cyfeiriad: Swyddfa Caerdydd Mudiad Meithrin, 11 Tŷ Nant Court, Pentre Poeth, Caerdydd, CF15 8LW