Cyflwyniad i’r Rhaglen Greadigol Blynyddoedd Cynnar ‘Dwylo Bach’
Cyflwyniad i’r Rhaglen Greadigol Blynyddoedd Cynnar ‘Dwylo Bach’
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd
Cyflwynwyr:
Eleri Jones: Ymarferydd creadigol a churadur
Ticky Lowe: Prif Weithredwr Making Sense CIO.
Ymunwch ag Eleri Jones a Ticky Lowe o dîm Dwylo Bach i archwilio hud creadigrwydd o fewn Dysgu Blynyddoedd Cynnar. Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn canolbwyntio ar:
- Integreiddio Creadigrwydd: Sut mae creadigrwydd yn cael ei gyflwyno i blant ifanc
- Creu Mannau Ysbrydoledig: Sut rydym yn dylunio mannau sy’n annog plant ifanc i archwilio, ymgysylltu a chwarae
- Y Tu Hwnt i Brosiectau Celf: Ddeall arwyddocâd creadigrwydd fel rhywbeth sy’n mynd y tu hwnt i “brosiect celf” – gan gydnabod ei rôl hanfodol yn nysgu a chyfnodau datblygiadol plant.
Bydd y sesiwn hon hefyd yn gweithredu fel rhagflaenydd i gynhadledd flynyddol Mudiad Meithrin ar 04 Chwefror 2026, a fydd yn canolbwyntio ar y thema “Hud Creadigrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar“.
Sesiwn Cymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd ar gael.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Cyflwyniad i'r Rhaglen Greadigol Blynyddoedd Cynnar ‘Dwylo Bach’
- Dyddiad Cau: 2026-01-29
- Amser: 18:30 - 20:00
- Lleoliad: Ar-lein