Datblygu Cariad Gydol Oes at Ddarllen
Datblygu Cariad Gydol Oes at Ddarllen
gyda Gaynor Brimble, cyn-Bennaeth Dysgu Sylfaen ar gyfer y GCA (Gwasanaeth Cyflawni Addysg) yn y De-ddwyrain.
Agored i: Ymarferwyr, myfyrwyr, athrawon cynradd a lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys aelodau Partneriaeth Cwlwm (Mudiad Meithrin, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru, Coram PACEY Cymru ac NDNA).
Ymunwch â Gaynor Brimble wrth iddi archwilio sut y gallwn feithrin cariad gydol oes at ddarllen o’r blynyddoedd cynnar. Gan dynnu sylw at bwysigrwydd y tri galluogwyr, bydd Gaynor yn rhannu syniadau ac arferion ymarferol i gefnogi datblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant.
Yn ystod y sesiwn, bydd Gaynor yn trafod:
- creu profiadau sy’n cyfoethogi sgiliau iaith a gwrando
- ffyrdd o gefnogi sgiliau lleferydd plant
- ymwybyddiaeth plant o ffonoleg a’i rôl yn natblygiad sgiliau darllen cynnar.
Sesiwn yn Saesneg.
Datblygu Cariad Gydol Oes at Ddarllen
- Dyddiad Cau: 2027-01-19
- Amser: 18:30 - 20:00
- Lleoliad: Ar-lein