Hybu Ymddygiad Cadarnhaol (1)
Hybu Ymddygiad Cadarnhaol
Gyda Dr Margiad Williams, Darlithydd mewn Addysg: Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, Prifysgol Bangor.
Mae Dr Margiad Williams yn gyd-gyfarwyddwr o’r Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor. Ei phrif diddordebau ymchwil yw hybu sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ieithyddol plant yn ogystal â rheolaeth ymddygiad drwy uwchsgilio rhieni ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar mewn lleoliadau addysg, iechyd a sector gyhoeddus.
Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd Dydd a Mudiad Meithrin
Bydd y cwrs hwn yn ystyried strategaethau effeithiol er mwyn annog ymddygiad cadarnhaol mewn plant bach.
Bydd y cwrs yn disgrifio beth yw ymddygiad cadarnhaol ac yn defnyddio esiamplau ymarferol o leoliadau blynyddoedd cynnar er mwyn cyflwyno technegau gwahanol; y gellir eu defnyddio er mwyn annog ymddygiad cadarnhaol.
Cyfrwng iaith y cwrs: Cymraeg
Hybu Ymddygiad Cadarnhaol (1)
- Dyddiad Cau: 2024-10-08
- Amser: 13:30 - 15:00
- Lleoliad: Ar-lein