21
Med

Hybu Ymddygiad Cadarnhaol (2)

0 tocynnau ar ôl Am ddim

Hybu Ymddygiad Cadarnhaol

Gyda Dr Margiad Williams, Darlithydd mewn Addysg: Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, Prifysgol Bangor.

Mae Dr Margiad Williams yn gyd-gyfarwyddwr o’r Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor. Ei phrif diddordebau ymchwil yw hybu sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ieithyddol plant yn ogystal â rheolaeth ymddygiad drwy uwchsgilio rhieni ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar mewn lleoliadau addysg, iechyd a sector gyhoeddus.

Cwrs yn addas i: Staff  Cylchoedd Meithrin, Meithrinfeydd Dydd a Mudiad Meithrin

Bydd y cwrs hwn yn ystyried strategaethau effeithiol er mwyn annog ymddygiad cadarnhaol mewn plant bach.

Bydd y cwrs yn disgrifio beth yw ymddygiad cadarnhaol ac yn defnyddio esiamplau ymarferol o leoliadau blynyddoedd cynnar er mwyn cyflwyno technegau gwahanol; y gellir eu defnyddio er mwyn annog ymddygiad cadarnhaol.

Cyfrwng iaith y cwrs: Saesneg

*SESIWN BELLACH YN LLAWN*

Os hoffech i ni ychwanegu eich enw i’n rhestr aros, cliciwch yma.


Hybu Ymddygiad Cadarnhaol (2)

  • Dyddiad Cau: 2023-09-21
  • Amser: 18:30 - 20:00
  • Lleoliad: Ar-lein