Hyfforddiant Diogelu Canolradd – Diogelu Plant 22/02
Hyfforddiant dan arweiniad Jane Ashman
Ar gyfer aelodau Mudiad Meithrin sy’n Gynorthwywyr meithrin dan hyfforddiant • Cynorthwywyr meithrin • Arweinyddion ystafelloedd meithrin • Rheolwyr cynorthwyol • Gweithwyr chwarae • Gyrwyr • Gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth)
Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd â gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer unigolion Grŵp B.
Cwrs lefel canolradd yw hwn ar gyfer unigolion sydd eisoes â pheth gwybodaeth ynglŷn â’r maes diogelu plant ond sydd angen datblygu dealltwriaeth bellach o’r camau y dylid eu cymryd pan fo pryderon yn codi ynglŷn a lles plant.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:
- Deall eich rôl i ddiogelu plant rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- Deall sut y caiff plant eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- Adnabod mathau gwahanol o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod yn cynnwys trais yn y cartref
- Dysgu am ddeddfwriaeth a gweithdrefnau ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc a gwybod beth ydi’r newidiadau diweddar i ddiogelu yn sgil y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deall effaith hir dymor camdriniaeth ar blant
- Ystyried y gwersi a ddysgwyd o achosion bywyd go iawn, lle mae cam-drin wedi digwydd mewn lleoliadau gofal plant.
*Cyn dilyn y cwrs hwn, argymhellir eich bod yn dilyn modiwl E-Ddysgu Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru (awr o hyd) ar-lein: https://gofalcymdeithasol.cymru/modiwlau-dysgu/grwp-a-diogelu
Bydd tâl o £30 am fynychu’r cwrs. Pris yn cynnwys cinio. Ni roddir ad-daliadau am fethu a mynychu. Bydd tystysgrif electroneg i bawb sy’n cwblhau’r hyfforddiant.
Cyfrwng iaith y cwrs: Cymraeg *gyda chyfieithu ar y pryd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.
Hyfforddiant Diogelu Canolradd – Diogelu Plant 22/02
- Dyddiad Cau: 2024-02-22
- Amser: 10:00 - 14:30
- Lleoliad: Cwrs wyneb yn wyneb
- Cyfeiriad: Elephant and Castle, Newtown SY16 2BQ