15
Ion

Hyfforddiant Diogelu Plant Ar-lein – Grŵp B – Canolradd – Ionawr

9 tocynnau ar ôl £30

Hyfforddiant gyda Jane Ashman

Mi fydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno ar 2 ddiwrnod ar wahân, bydd angen i gyfranogwyr fynychu’r ddau ddiwrnod er mwyn cwblhau’r hyfforddiant.

  • 15 o Ionawr a 20 o Ionawr
  • 10:15yb – 2yp

Cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r cwrs ar gyfer aelodau Mudiad Meithrin sydd yn:

  • Gynorthwywyr meithrin dan hyfforddiant
  • Cynorthwywyr meithrin
  • Arweinyddion ystafelloedd meithrin
  • Rheolwyr cynorthwyol
  • Gweithwyr chwarae
  • Gyrwyr
  • Gwirfoddolwyr

Mae’r cwrs hwn yn cyd-fynd â gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer unigolion Grŵp B.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob ymarferydd sydd a chysylltiad rheolaidd â phlant. Efallai bod gennych eisoes peth wybodaeth ynglŷn â’r maes ond bod angen datblygu eich dealltwriaeth ymhellach ac i fod yn ymwybodol o’r camau y dylid eu cymryd pan fo pryderon yn codi ynglŷn â lles plant.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:

  • Deall eich rôl i ddiogelu plant rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
  • Deall sut y caiff plant eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
  • Adnabod mathau gwahanol o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod yn cynnwys trais yn y cartref
  • Dysgu am ddeddfwriaeth a gweithdrefnau ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc a gwybod beth ydi’r newidiadau diweddar i ddiogelu yn sgil y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deall effaith hir dymor camdriniaeth ar blant
  • Ystyried y gwersi a ddysgwyd o achosion bywyd go iawn, lle mae cam-drin wedi digwydd mewn lleoliadau gofal plant.

*Cyn dilyn y cwrs hwn, argymhellir eich bod yn dilyn modiwl E-Ddysgu Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru (awr o hyd) ar-lein: https://gofalcymdeithasol.cymru/modiwlau-dysgu/grwp-a-diogelu

Bydd tâl o £30 am fynychu’r hyfforddiant.

Bydd tystysgrif electroneg i bawb sy’n cwblhau’r hyfforddiant.

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.


Hyfforddiant Diogelu Plant Ar-lein - Grŵp B - Canolradd - Ionawr

  • Dyddiad Cau: 2025-01-15
  • Amser: 10:15 - 14:00
  • Lleoliad: Cwrs ar-lein