30
Ion

Hyfforddiant Diogelu Oedolion sy’n Wynebu Risg

0 tocynnau ar ôl Am ddim

Hyfforddiant Diogelu Oedolion sy’n Wynebu Risg 

gyda Paul Jones, Gweithiwr Cymdeithasol Annibynnol a hyfforddwr profiadol

Addas i: Staff Cylchoedd Meithrin / Meithrinfeydd Dydd / Arweinyddion Ti a Fi /aelodau pwyllgorau a gwirfoddolwyr

O dan arweiniad Paul Jones, bydd yr hyfforddiant hwn yn cynnig trosolwg o beth yw diogelu, mathau o gamdriniaeth, wynebu risg, caethwasiaeth fodern, dyletswydd ATAL, ac iechyd a lles meddyliol. Bydd cyfle i drafod enghreifftiau o sefyllfaoedd go iawn.

Ar ddiwedd y cwrs fe fyddwch yn:

  • Deall gweithdrefnau newydd Diogelu Cymru a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Adnabod mathau gwahanol o gamdriniaeth ynghyd â’r arwyddion
  • Deall mwy am gaethwasiaeth fodern, dyletswyddau ATAL, ynghyd ag iechyd a lles meddyliol
  • Hyderus i fedru cofnodi a chyfeirio lle’n briodol, a defnyddio Polisi Diogelu Mudiad Meithrin
  • Gwybod pryd i gyfeirio oedolyn mewn risg heb ei ganiatâd.

Cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg


Hyfforddiant Diogelu Oedolion sy’n Wynebu Risg

  • Dyddiad Cau: 2025-01-30
  • Amser: 13:00 - 16:00
  • Lleoliad: Ar-lein